TGAU / GCSE

Mae amrywiaeth o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru yn cael eu datblygu gan y corff dyfarnu, CBAC, yn dilyn cyhoeddi canfyddiadau a phenderfyniadau ymgynghoriad Cymwysterau Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi ysgolion wrth iddyn nhw gyflwyno’r Cwricwlwm i bobl ifanc 14-16 oed wrth i CBAC weithio’n agos gyda Cymwysterau Cymru i ddatblygu’r manylebau TGAU, a gaiff eu cyhoeddi erbyn Medi 2024. Cliciwch yma i gael y diweddaraf ar waith CBAC yn datblygu’r TGAU newydd.

Bydd gan ysgolion flwyddyn academaidd lawn i baratoi ar gyfer addysgu'r cymwysterau TGAU newydd fyddyn cael eu cyflwyno ym mis Medi 2025. Bydd CBAC yn darparu pecyn addysgu a dysgu o adnoddau i helpu athrawon i gyflwyno’r cymwysterau newydd.

Dilynwch y diweddariadau isod neu gofynnwch gwestiwn i ni am y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd. Rydyn ni’n monitro’r wefan hon yn rheolaidd ac yn anelu at ymateb o fewn tua 3 diwrnod gwaith.

A range of new Made-for-Wales GCSEs are being developed by the awarding body, WJEC, following the announcement of Qualifications Wales’ consultation findings and decisions.

Welsh Government continue to support schools as they roll out the Curriculum to 14–16 year-olds while WJEC is working closely with Qualifications Wales to develop the GCSE specifications, which will be published by September 2024. Click here for the latest updates on WJEC’s work developing the new GCSEs.

Schools will have a full academic year to prepare for first teaching of the new GCSEs being introduced in September 2025. WJEC will provide a package of teaching and learning resources to help teachers deliver the new qualifications.

Follow the updates below or ask us a question on the new Made-for-Wales GCSEs. We regularly monitor this website and aim to respond in approximately 3 working days.

  • Beth mae'r cynnydd mewn asesu digidol yn ei olygu i ysgolion ac athrawon? / What does the increase in digital assessment mean for schools and teachers?

    Bydd y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd yn cynnwys ystod ehangach o arholiadau ac asesiadau digidol ar y sgrin mewn rhai pynciau. Bydd hyn yn cefnogi asesiadau dilys iawn sy'n gyfredol.

    Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru fel bod modd iddyn nhw helpu ysgolion i sicrhau'r adnoddau a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw i baratoi ar gyfer cyflwyno cymwysterau TGAU diwygiedig.

    Rydyn ni’n parhau i weithio'n agos gyda CBAC ac eraill i sicrhau y caiff athrawon eu cefnogi wrth iddyn nhw addasu i ddulliau asesu newydd.

    Wrth i ni barhau i archwilio sut i ddigido asesu, rydyn ni eisiau clywed gan athrawon, darlithwyr a dysgwyr. Os hoffech chi gymryd rhan, neu os hoffech chi wybod mwy am y ffyrdd y gallwch chi gyfrannu, gallwch chi gofrestru eich diddordeb nawr.

    The new made-for-Wales GCSEs will feature a greater range of on-screen examinations and digital assessments in some subjects. This will support highly valid assessments that are current and up to date.

    We have been working closely with Welsh Government so they can help schools to secure the resources and support they need to prepare for delivering reformed GCSEs.

    We continue to work closely with WJEC and others to ensure teachers will be supported as they adapt to new methods of assessment.

    As we continue to explore how to digitise assessment, we want to hear from teachers, lecturers and learners. If you’d like to be involved, or want to find out more about the ways you can contribute, you can register your interest now.

  • Sut fydd cyflwyno TGAU dyfarniad dwyradd yn effeithio ar ailsefyll mewn lleoliadau ôl-16 / How will the introduction of double award GCSEs affect resits in post-16 settings

    Rydyn ni’n ymgysylltu â cholegau i ystyried a allai cyflwyno TGAU dyfarniad dwyradd newydd mewn Mathemateg a Rhifedd, Saesneg a Chymraeg effeithio ar ddysgwyr mewn lleoliadau ôl-16.

    Gan weithio gyda ColegauCymru byddwn yn cynnal darn o waith i adnabod y gwahanol anghenion sydd gan ddysgwyr mewn lleoliadau ôl-16 yn y pynciau hyn, i lywio ein ffordd o feddwl am yr ystod o gymwysterau y bydd ganddyn nhw fynediad atyn nhw yn y dyfodol.

    Byddwn yn diweddaru'r tudalennau hyn wrth i'n gwaith yn y maes hwn fynd rhagddo. Mae rhai o'r camau rydyn ni eisoes yn eu trafod yn cynnwys:

    • llacio rheolau ailsefyll ar gyfer dysgwyr sy'n sefyll arholiadau mewn lleoliadau ôl-16.

    • caniatáu i ddysgwyr ailsefyll unedau penodol yn hytrach na'r cymhwyster cyfan.

    • archwilio sut y gellid gwneud llif data canlyniadau arholiadau dysgwyr i golegau yn gynt ac yn fwy effeithlon (gan gynnwys gwybodaeth am ddewisiadau testun penodol a data lefel eitem ar gyfer Cymraeg a Saesneg)

    We’re engaging with colleges to consider whether and how the introduction of new double award GCSEs in Mathematics and Numeracy, English and Cymraeg could affect learners in post-16 settings.

    Working with ColegauCymru we will be conducting a piece of work to identify the different needs that learners in post-16 settings have in these subjects, to inform our thinking about the range of qualifications they will have access to in future.

    We will keep these pages updated as our work in this area progresses. Some of the steps we are already discussing include:

    • relaxing resit rules for learners taking exams in post-16 settings.

    • allowing learners to resit specific units rather than the whole qualification.

    • exploring how the flow of learner exam results data to colleges could be made faster and more efficient (including information on set text choices and item level data for English and Cymraeg)

  • Pa effaith fydd diwygiadau TGAU yn ei chael ar Safon UG a Safon Uwch? / What impact will GCSE reforms have on AS and A levels?

    Mae TGAU diwygiedig wedi'u cynllunio i gefnogi dilyniant i Safon UG a Safon Uwch cyfredol. O ystyried hyn, nid oes gennym unrhyw gynlluniau i ddiwygio'r cymwysterau hyn yn sylweddol. Fodd bynnag, bydd y cymwysterau hyn yn cael eu hadolygu'n barhaus er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn symud ymlaen yn esmwyth i astudiaethau pellach, o fis Medi 2027 ymlaen.

    Erbyn haf 2024, byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion am ein dull o adolygu cymwysterau UG a Safon Uwch, a'r ystod o gymwysterau a fydd ar gael i ddysgwyr yn y dyfodol.

    Reformed GCSEs are designed to support progression to current AS and A levels. Given this, we have no plans to significantly reform these qualifications. However, these qualifications will be kept under review to ensure learners progress smoothly to further study, from September 2027 onwards.

    By summer 2024, we will publish further details on our approach to reviewing AS and A levels, and the range of qualifications that will be available for learners in the future.

Page last updated: 27 Jun 2025, 10:43 AM