-
Y Dyniaethau: Datblygiadau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg / Humanities: Developments on Religion, Values and Ethics
Ni fyddwn yn datblygu gofynion ar gyfer cymhwyster annibynnol mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.
Yn lle hynny, fel rhan o'r cymwysterau Sgiliau Bywyd fydd ar gael i ddysgwyr 14-16 oed, byddwn yn datblygu gofynion ar gyfer unedau newydd mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Y tair uned fydd:
Ffydd a chred yn y gymuned leol
Dewisiadau Moesegol
Gwerthoedd am oes
Bydd pob uned rhwng 10 ac 20 awr o ddysgu dan arweiniad. Bydd hyn yn rhoi rhywfaint o strwythur a sgaffaldiau i ysgolion i gefnogi eu darpariaeth o Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg ym Mlynyddoedd 10 ac 11.
Bydd ysgolion yn rhydd i ddewis i ba raddau maen nhw’n darparu'r unedau hyn pan fyddan nhw’n addysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Er bod yr unedau hyn wedi'u dylunio i gefnogi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, ni fyddan nhw’n ymdrin â phob agwedd ar rwymedigaethau statudol ysgol yn y maes hwn.
We will not develop requirements for a standalone qualification in Religion, Values and Ethics.
Instead, as part of the Skills for Life qualifications available for learners aged 14-16, we will develop requirements for new units in Religion, Values and Ethics. The three units will be:
Faith and belief in the local community
Ethical Choices
Values for life
Each unit will be between 10 and 20 guided learning hours. This will give schools some structure and scaffolding to support their provision of RVE in Years 10 and 11.
Schools will be free to choose to what extent they deliver these units when they teach RVE. Although these units are designed to support RVE, they will not cover all aspects of a school’s statutory obligations within this area.
-
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu: Cymwysterau Iaith Gymraeg / Languages, Literacy and Communication: Welsh language qualifications
Yn 2023, fe wnaeth Llywodraeth Cymru ymgynghori ar gynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg. Rydyn ni wedi ymrwymo i'w cefnogi i gyflawni ei nodau, gyda chymwysterau yn chwarae rhan briodol yn yr agenda bolisi ehangach.
Rydyn nin parhau i weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod cymwysterau Cymraeg yn cefnogi'r continwwm iaith ac yn hyrwyddo'r nodau strategol ehangach ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg hyderus.
Mae ein gwaith ar gymwysterau Cymraeg i bobl ifanc 14-16 oed yn rhan o'n blaenoriaethau strategol ehangach ar gyfer y Gymraeg. Gallwch ddarllen mwy am ein gweledigaeth strategol yma.
In 2023, Welsh Government consulted on proposals for a Welsh language Education Bill. We’re committed to supporting them to achieve its aims, with qualifications playing an appropriate part in the wider policy agenda.
We continue to work with partners, including Welsh Government, to ensure that Welsh language qualifications support the language continuum and promote the wider strategic aims for increasing numbers of confident Welsh speakers.
Our work on Welsh language qualifications for 14-16-years olds is part of our wider strategic priorities for the Welsh language. You can read more about our strategic vision here.
-
Iechyd a Lles: Diweddariad ar TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd / Health and Wellbeing: GCSE Physical Education and Health update
Ym mis Mehefin 2023, gwnaethom gyhoeddi Meini Prawf Cymeradwyo ar gyfer TGAU newydd Gwneud-i-Gymru mewn Addysg Gorfforol ac Iechyd, a fydd ar gael i'w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026.
Bydd 60% o'r cymhwyster hwn yn cael ei asesu drwy asesiad di-arholiad lle bydd yn rhaid i ddysgwyr:
berfformio mewn dwy gamp neu weithgaredd corfforol wedi'u dewis o restr Gymeradwy
cynnig hyfforddi neu hyfforddiant personol i eraill mewn camp neu weithgaredd corfforol wedi'u dewis o restr Gymeradwy.
Yn ystod y misoedd diwethaf rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gyd-greu'r rhestr Gymeradwy o gampau a gweithgareddau corfforol y bydd dysgwyr yn dewis ohonyn nhw. Byddwn yn defnyddio meini prawf i benderfynu beth ddylai gael ei gynnwys ar y rhestr Gymeradwy, ond bydd yn cynnwys ystod ddiddorol a chynhwysol o gampau a gweithgareddau corfforol unigol a thîm priodol.
Fe wnaethom gynnal arolwg ar-lein ym mis Tachwedd 2023 i gasglu adborth ar ein meini prawf arfaethedig ac i alluogi rhanddeiliaid i awgrymu pa gampau a gweithgareddau corfforol ddylai gael eu cynnwys.
Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ystyried yr adborth i'r arolwg hwn. Rydyn ni’n bwriadu cyhoeddi'r meini prawf a'r rhestr Gymeradwy yng ngwanwyn 2024.
In June 2023, we published the Approval Criteria for a new Made-for-Wales GCSE in Physical Education and Health, which will be available for first teaching from September 2026.
60% of this qualification will be assessed through non-examination assessment (NEA) where learners will have to:
perform in two sports or physical activities selected from an Approved list
provide coaching or personal training to others in a sport or physical activity selected from an Approved list.
In recent months we have been working with stakeholders to co-create the Approved list of sports and physical activities that learners will choose from. We’ll use criteria to determine what should feature on the Approved list, but it will include an engaging and inclusive range of appropriate individual and team sports and physical activities.
We hosted an online survey in November 2023 to gather feedback on our proposed criteria and to enable stakeholders to suggest what sports and physical activities should be included.
We are currently working with key stakeholders to consider the feedback to this survey. We intend to publish the criteria and Approved list in Spring 2024.
-
Sut fydd cymwysterau dyfarniad dwyradd yn cael eu graddio? / How will double award qualifications be graded?
Ar gyfer TGAU dyfarniad dwyradd, bydd dysgwyr yn derbyn dwy radd ar eu tystysgrif i ddangos maint y cymhwyster.
Rydyn ni wedi penderfynu y bydd graddio dyfarniad dwyradd ar raddfa 8 pwynt. Mae hyn yn golygu y bydd dysgwyr yn derbyn yr un radd ddwywaith ar eu tystysgrif, gyda graddau'n amrywio rhwng A*A*, AA, BB, CC, DD, EE, FF, GG.
Mae'r dull hwn o raddio dyfarniad dwyradd yn syml ac yn hawdd i randdeiliaid ei ddeall a'i ddehongli. Mae'n debyg i'r raddfa 8 pwynt a gaiff ei defnyddio i raddio TGAU dyfarniad unigol.
Rydyn ni’n parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid AB ac AU i sicrhau eu bod yn deall y cymwysterau TGAU dwbl newydd ac yn dod i gasgliadau teg am gyflawniadau dysgwyr yng Nghymru.
For double award GCSEs, learners will receive two grades on their certificate to show the size of the qualification.
We’ve decided that double award grading will be on an 8-point scale. This means that learners will receive the same grade twice on their certificate, with grades ranging between A*A*, AA, BB, CC, DD, EE, FF, GG.
This approach to grading double awards is simple and easy for stakeholders to understand and interpret. It is similar to the 8-point scale that will be used to grade single-award GCSEs.
We continue to engage with FE and HE stakeholders to ensure they understand the new double award GCSEs and draw fair conclusions about the achievements of learners in Wales.
-
Beth mae'r cynnydd mewn asesu digidol yn ei olygu i ysgolion ac athrawon? / What does the increase in digital assessment mean for schools and teachers?
Bydd y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd yn cynnwys ystod ehangach o arholiadau ac asesiadau digidol ar y sgrin mewn rhai pynciau. Bydd hyn yn cefnogi asesiadau dilys iawn sy'n gyfredol.
Rydyn ni wedi bod yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru fel bod modd iddyn nhw helpu ysgolion i sicrhau'r adnoddau a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw i baratoi ar gyfer cyflwyno cymwysterau TGAU diwygiedig.
Rydyn ni’n parhau i weithio'n agos gyda CBAC ac eraill i sicrhau y caiff athrawon eu cefnogi wrth iddyn nhw addasu i ddulliau asesu newydd.
Wrth i ni barhau i archwilio sut i ddigido asesu, rydyn ni eisiau clywed gan athrawon, darlithwyr a dysgwyr. Os hoffech chi gymryd rhan, neu os hoffech chi wybod mwy am y ffyrdd y gallwch chi gyfrannu, gallwch chi gofrestru eich diddordeb nawr.
The new made-for-Wales GCSEs will feature a greater range of on-screen examinations and digital assessments in some subjects. This will support highly valid assessments that are current and up to date.
We have been working closely with Welsh Government so they can help schools to secure the resources and support they need to prepare for delivering reformed GCSEs.
We continue to work closely with WJEC and others to ensure teachers will be supported as they adapt to new methods of assessment.
As we continue to explore how to digitise assessment, we want to hear from teachers, lecturers and learners. If you’d like to be involved, or want to find out more about the ways you can contribute, you can register your interest now.
-
Sut fydd cyflwyno TGAU dyfarniad dwyradd yn effeithio ar ailsefyll mewn lleoliadau ôl-16 / How will the introduction of double award GCSEs affect resits in post-16 settings
Rydyn ni’n ymgysylltu â cholegau i ystyried a allai cyflwyno TGAU dyfarniad dwyradd newydd mewn Mathemateg a Rhifedd, Saesneg a Chymraeg effeithio ar ddysgwyr mewn lleoliadau ôl-16.
Gan weithio gyda ColegauCymru byddwn yn cynnal darn o waith i adnabod y gwahanol anghenion sydd gan ddysgwyr mewn lleoliadau ôl-16 yn y pynciau hyn, i lywio ein ffordd o feddwl am yr ystod o gymwysterau y bydd ganddyn nhw fynediad atyn nhw yn y dyfodol.
Byddwn yn diweddaru'r tudalennau hyn wrth i'n gwaith yn y maes hwn fynd rhagddo. Mae rhai o'r camau rydyn ni eisoes yn eu trafod yn cynnwys:
llacio rheolau ailsefyll ar gyfer dysgwyr sy'n sefyll arholiadau mewn lleoliadau ôl-16.
caniatáu i ddysgwyr ailsefyll unedau penodol yn hytrach na'r cymhwyster cyfan.
archwilio sut y gellid gwneud llif data canlyniadau arholiadau dysgwyr i golegau yn gynt ac yn fwy effeithlon (gan gynnwys gwybodaeth am ddewisiadau testun penodol a data lefel eitem ar gyfer Cymraeg a Saesneg)
We’re engaging with colleges to consider whether and how the introduction of new double award GCSEs in Mathematics and Numeracy, English and Cymraeg could affect learners in post-16 settings.
Working with ColegauCymru we will be conducting a piece of work to identify the different needs that learners in post-16 settings have in these subjects, to inform our thinking about the range of qualifications they will have access to in future.
We will keep these pages updated as our work in this area progresses. Some of the steps we are already discussing include:
relaxing resit rules for learners taking exams in post-16 settings.
allowing learners to resit specific units rather than the whole qualification.
exploring how the flow of learner exam results data to colleges could be made faster and more efficient (including information on set text choices and item level data for English and Cymraeg)
-
Pa effaith fydd diwygiadau TGAU yn ei chael ar Safon UG a Safon Uwch? / What impact will GCSE reforms have on AS and A levels?
Mae TGAU diwygiedig wedi'u cynllunio i gefnogi dilyniant i Safon UG a Safon Uwch cyfredol. O ystyried hyn, nid oes gennym unrhyw gynlluniau i ddiwygio'r cymwysterau hyn yn sylweddol. Fodd bynnag, bydd y cymwysterau hyn yn cael eu hadolygu'n barhaus er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn symud ymlaen yn esmwyth i astudiaethau pellach, o fis Medi 2027 ymlaen.
Erbyn haf 2024, byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion am ein dull o adolygu cymwysterau UG a Safon Uwch, a'r ystod o gymwysterau a fydd ar gael i ddysgwyr yn y dyfodol.
Reformed GCSEs are designed to support progression to current AS and A levels. Given this, we have no plans to significantly reform these qualifications. However, these qualifications will be kept under review to ensure learners progress smoothly to further study, from September 2027 onwards.
By summer 2024, we will publish further details on our approach to reviewing AS and A levels, and the range of qualifications that will be available for learners in the future.