• Meini prawf cymeradwyo ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth Integredig Gwneud-i-Gymru Newydd (Dyfarniad Unigol)/ Approval criteria for a new Made-for-Wales GCSE Integrated Science (Single Award)

    Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi meini prawf cymeradwyo ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth Integredig Gwneud-i-Gymru newydd.

    Bydd y cymhwyster TGAU dyfarniad unigol hwn yn cyd-fynd â TGAU newydd Gwneud-i-Gymru yn y Gwyddorau (Dyfarniad Dwyradd), sydd wedi’i ddylunio i fod y prif gymhwyster gwyddoniaeth a gaiff ei sefyll gan y rhan fwyaf o bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru.

    Meini prawf cymeradwyo ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth Integredig (Dyfarniad Unigol) Gwneud-i-Gymru newydd | Cymwysterau Cymru

    Rydym hefyd wedi cyhoeddi adroddiad sy'n amlinellu ein penderfyniadau dylunio a'n rhesymeg dros wneud hynny. Darllenwch yma: adroddiad-tgau-gwyddoniaeth-unigol-integredig.pdf (cymwysterau.cymru)



    Qualifications Wales publishes approval criteria for a new Made-for-Wales Integrated Science GCSE.

    This single award GCSE will sit alongside a new Made-for-Wales GCSE The Sciences (Double Award), which has been designed to be the main science qualification taken by the majority of 14 to 16-year-olds in Wales.

    Approval criteria for a new Made-for-Wales GCSE Integrated Science (Single Award) | Qualifications Wales

    We have also published a report outlining the key design decisions we have taken and our rationale for doing so. This can be read here: gcse-integrated-single-science-report.pdf (qualifications.wales)

  • TGAU Gwneud-i-Gymru – amserlen Dysgu Proffesiynol yn fyw nawr! / Made-for-Wales GCSEs - Professional Learning schedule now live!

    I gefnogi'r gyfres newydd o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig Gwneud-i-Gymru, mae CBAC yn falch o gyhoeddi'r amserlen newydd o gyfleoedd dysgu proffesiynol am ddim. Bydd y cyrsiau cenedlaethol hyn yn cael eu darparu gan arbenigwyr manyleb hyfforddedig ar gyfer y ton cyntaf o gymwysterau, lle bydd yr addysgu'n dechrau o fis Medi 2025.

    TGAU Gwneud-i-Gymru – amserlen Dysgu Proffesiynol yn fyw nawr! (cbac.co.uk)



    In support of the new suite of Made-for-Wales GCSEs and related qualifications, WJEC are pleased to announce the new schedule of free, professional learning opportunities. These nationwide courses will be delivered by trained specification experts for the first raft of qualifications, where teaching will begin from September 2025.

    Made-for-Wales GCSEs - Professional Learning schedule now live! (wjec.co.uk)

  • Ymgynghoriad ar ganllawiau statudol drafft ar Ddysgu 14 i 16 yn y Cwricwlwm i Gymru/ Consultation on draft statutory guidance on 14 to 16 Learning in the Curriculum for Wales

    Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi lansio ymgynghoriad ar ganllawiau statudol drafft ar Ddysgu 14 i 16 yn y Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr ymgynghoriad ar agor hyd at 8 Mai 2024

    Datganiad ysgrifenedig

    Datganiad Ysgrifenedig: Dysgu 14 i 16 o fewn Cwricwlwm i Gymru – ymgynghoriad ar ganllawiau statudol (28 Chwefror 2024) | LLYW.CYMRU

    Datganiad i’r wasg

    Hoffai Llywodraeth Cymru gael eich barn ar ddysgu 14 i 16 o dan y Cwricwlwm i Gymru | LLYW.CYMRU



    The Minster for Education and Welsh Language has launched a consultation on draft statutory guidance on 14 to 16 Learning in the Curriculum for Wales. Consultation window will be open to 8 May 2024

    Written statement

    Written Statement: 14 to 16 learning in the Curriculum for Wales – statutory guidance consultation (28 February 2024) | GOV.WALES

    Press notice

    Welsh Government wants your views on 14 to 16 learning under the Curriculum for Wales | GOV.WALES

  • Amlinelliadau o'r cymwysterau Gwneud-i-Gymru ac adroddiad o'r ymgynghoriadau ar gael nawr / Made-for-Wales qualification outlines and consultation report now available

    Mae CBAC wedi cyhoeddi bod eu hamlinelliadau cymwysterau terfynol wedi'u cyhoeddi ar gyfer cymwysterau sydd ar gael i'w haddysgu am y tro cyntaf o Fedi 2025. Darganfyddwch fwy yma.


    WJEC have announced that their final qualification outlines are now published for qualifications available for first teaching from September 2025. Find out more here.

  • Cynllunio ymlaen - Blwyddyn 9 / Planning ahead- Year 9

    Ar hyn o bryd, mae rhai dysgwyr yn astudio tuag at eu hopsiynau TGAU o Flwyddyn 9.

    Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth ysgolion na fydd hyn yn briodol i ddysgwyr sy'n dechrau ym Mlwyddyn 9 ym mis Medi 2024. Y rheswm dros hyn yw nad yw'n darparu'r profiad eang a chytbwys o addysgu a dysgu sy'n ofynnol gan y Cwricwlwm i Gymru.

    Llythyr gan Llywodraeth Cymru - Cwricwlwm Blwyddyn 9 a'r cymwysterau diwygiedig


    At present, some learners study towards their chosen GCSE options from Year 9.

    Welsh Government have told schools this will not be appropriate for learners starting Year 9 in September 2024. This is because it does not provide the broad and balanced experience of teaching and learning required by the Curriculum for Wales.

    Welsh Government Letter - Year 9 Curriculum and Reformed GCSEs

  • Medi 2025 – Addysgu TGAU diwygiedig am y tro cyntaf / September 2025 – First teaching of reformed GCSEs

    Bydd y rhan fwyaf o gymwysterau TGAU newydd yn cael eu haddysgu o fis Medi 2025. Mae hyn yn cynnwys Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a TGAU dyfarniad dwyradd yn y Gwyddorau.

    Bydd nifer fach o TGAU etifeddol, mewn pynciau presennol fel Addysg Gorfforol, Dylunio a Thechnoleg ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, yn parhau i fod ar gael i ddysgwyr sydd eisiau eu dewis ym mis Medi 2025.

    Bydd yr holl gymwysterau TGAU yn cael eu hastudio dros ddwy flynedd, gyda'r dyfarniad cyntaf o gymwysterau TGAU newydd yn haf 2027.


    Most new GCSEs will be taught from September 2025. This includes English, Cymraeg, Maths and a double-award GCSE in the Sciences.

    A small number of legacy GCSEs, in existing subjects like Physical Education, Design & Technology and Health & Social Care and Childcare, will remain available for learners who want to choose them in September 2025.

    All GCSEs will be studied over two years, with the first award of new GCSEs in summer 2027.

  • Medi 2026 – Addysgu TGAU diwygiedig am y tro cyntaf mewn pynciau newydd / September 2026 – First teaching of reformed GCSEs in new subjects

    O fis Medi 2026, bydd dysgwyr yn gallu dewis TGAU diwygiedig ym mhob pwnc.

    Bydd nifer fach o gymwysterau TGAU diwygiedig yn cael eu haddysgu o fis Medi 2026. Mae hyn yn cynnwys y cymwysterau newydd Gwneud-i-Gymru fel Dawns neu Ffilm a Chyfryngau Digidol. Bydd y cymwysterau hyn yn cael eu dyfarnu am y tro cyntaf yn haf 2028.


    From September 2026, learners will be able to choose reformed GCSEs in all subjects.

    A small number of reformed GCSEs will be taught from September 2026. This includes the new made-for-Wales qualifications like Dance or Digital Media & Film. These qualifications will be awarded for the first time in summer 2028.

  • TGAU eraill ar gael / Other available GCSEs

    Mae ein Datganiad o Fwriad Polisi ar y gyfres CymwysterauCenedlaethol 14-16 newydd yn amlinellu ein safbwynt ar ddynodi TGAU nad ydyn nhw wedi eu Gwneud-i-Gymru, ifodoliochr yn ochr â'n TGAU Gwneud-i-Gymru newydd.

    Rydym bellach wedi lansio ein hymgynghoriad ar sut y byddwn yn cymhwyso'r egwyddorion yn y datganiad hwn, a pha eithriadau i'r dull hwn y gallai fod eu hangen.

    Erbyn diwedd 2024, byddwn yn cadarnhau a fydd unrhywgymwysterau TGAU 9 -1 ar gael yng Nghymru o fis Medi 2025. Mater i gyrff dyfarnu ei ystyried fydd hi wedyn os ydynt yn dymuno gwneud cais i allu cynnig unrhyw un o'u TGAU 9-1, yn ddwyieithog, yng Nghymru.

    O fis Medi 2027, einbwriad yw y bydd ysgolion ond yn cynnig cymwysterau TGAU eraill nad ydyn nhw wedi’u Gwneud-i-Gymru o dan yr amgylchiadau canlynol:

    • nad oes TGAU Gwneud-i-Gymru tebyg, a

    • mae'r TGAU yn bodloni ein hegwyddorion arweiniol, fel a ganlyn:

    • Mae'n ymwneud â nodau a dibenion y Cwricwlwmi Gymru ac yn eu cefnogi;

    • Mae ar gael yn ddwyieithog; ac

    • Mae'n cyfrannu at ystod gydlynol a chynhwysol o gymwysterau sy'n diwallu anghenion pob dysgwr.

    Mae ein gwefanyn cynnwys mwy o wybodaeth am ddynodi, ac mae gan ein cronfa ddataCymwysterau yng Nghymru (QiW)wybodaeth am gymwysterau TGAU eraill sydd ar gaelyngNghymru ar hyn o bryd. 



    Our statement of policy intenton the new National 14-16 Qualifications suite sets out our position on the designation of GCSEs that are not made-for-Wales, to sit alongside our new made-for-Wales GCSEs.

    We have now launched our consultation on how we will apply the principles in this statement, and what exceptions to this approach might be needed.

    By the end of 2024, we will confirm whether awarding bodies will be able to apply to offer any 9-1 GCSEs in Wales. It will then be at the discretion of awarding bodies as to whether they wish to apply to be able to offer any of their 9-1 GCSEs, bilingually, in Wales. 

    From September 2027, our intention is that schools will only offer other GCSEs that were not made-for-Wales in the following circumstances:

    • there is no similar Made-for-Wales GCSE, and

    • the GCSE meets our guiding principles, as follows:

    • It relates to and support the aims and purposes of the Curriculum for Wales;

    • It is available bilingually; and

    • It contributes to a coherent and inclusive range of qualifications that meets the needs of all learners.

    Our website includes more information about designation, and our database QiW has information on other GCSEs that are currently available in Wales. 

  • Sut fydd ysgolion yn rheoli mwy o ddefnydd o asesiadau di-arholiad mewn cymwysterau TGAU newydd?  / How will schools manage greater use of non-exam assessment (NEA) in new GCSEs? 

    Bydd y gyfres newydd o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru yn gwneud mwy o ddefnydd o asesiadau di-arholiad. Mae'r asesiadau hyn yn aml yn ddilys ac yn afaelgar i ddysgwyr, ac maen nhw’n helpu i sicrhau bod cymwysterau TGAU yn hygyrch ac yn gynhwysol i bob dysgwr.

    Mae asesiad di-arholiad yn disgrifio amrywiaeth eang o wahanol fathau o asesu. Mae modd disgrifio unrhyw asesiad nad yw ar ffurf papur arholiad sy'n cael ei sefyll gan bob dysgwr ar yr un pryd fel asesiad di-arholiad. Mae'r rhan fwyaf o asesiadau di-arholiad yn seiliedig ar dasgau neu friffiau a gaiff eu gosod gan y corff dyfarnu.

    Mae ein hadroddiad ar benderfyniadau yn nodi'r cydbwysedd gofynnol rhwng asesiadau arholiadau a’r rhai di-arholiad ar gyfer pob cymhwyster TGAU newydd.


    The new suite of made-for-Wales GCSEs will make greater use of non-exam assessment. These assessments are often valid and engaging for learners, and they help to ensure GCSEs are accessible and inclusive for all learners.

    Non-examination assessment describes a wide variety of different kinds of assessment. Any assessment that does not take the form of an examination paper that is sat by all learners at the same time can be described as non-examination assessment. Most non-examination assessments are based on tasks or briefs set by the awarding body.

    Our decisions report sets out the required balance of examination and non-examination assessment for each new GCSE.

  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg: TGAU dyfarniad unigol newydd yn y Gwyddorau / Science & Technology: New single award GCSE in The Sciences

    Ym mis Mehefin 2023, gwnaethom gyhoeddi ein penderfyniad i ddatblygu TGAU Gwyddoniaeth dyfarniad unigol integredig newydd, i eistedd ochr yn ochr â'r dyfarniad dwyradd.

    Fel nodyn atgoffa, bydd y cymhwyster TGAU dwyradd newydd yn y Gwyddorau ar gael i'w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2025 a bydd yn disodli'r TGAU Gwyddoniaeth a dyfarniad dwyradd ar wahân presennol yng Nghymru. Bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn astudio'r dyfarniad dwyradd newydd, sydd wedi'i ddylunio i gefnogi dilyniant i Safon UG a Safon Uwch mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg. Gallwch ddarllen y Meini Prawf Cymeradwyo ar gyfer y cymhwyster newydd hwn yma.  

    Mae'r TGAU dyfarniad unigol newydd yn cael ei ddylunio ar gyfer dysgwyr a fydd yn elwa o astudio llai o gynnwys na'r dyfarniad dwyradd. Ni fydd y dyfarniad unigol yn cefnogi dilyniant i Safon UG a Safon Uwch mewn Bioleg, Cemeg neu Ffiseg, ond bydd yn: 

    • rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu dealltwriaeth o wyddoniaeth yng nghyd-destun bywyd bob dydd wrth astudio ar gyfer TGAU yn y pwnc  

    • mabwysiadu dull thematig o addysgu a dysgu drwy dynnu elfennau o fioleg, cemeg a ffiseg ynghyd  

    • cynnig yr un lefel o her â phob TGAU arall ac yn asesu dysgwyr ar lefel 1 a lefel 2 yn briodol  

    • galluogi dysgwyr i symud ymlaen i ystod o gyrsiau ôl-16 eraill.  

    Rydyn ni’n cydnabod y gallai fod yn well gan rai dysgwyr sy'n dechrau ym Mlwyddyn 10 ym mis Medi 2025 astudio TGAU dyfarniad unigol gyda llai o gynnwys sy'n dal i gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru. Er mwyn diwallu anghenion y dysgwyr hyn, bydd CBAC yn ymestyn y cymhwyster TGAU Gwyddoniaeth Gymhwysol (Dyfarniad Unigol) presennol tan fis Medi 2026.

    Ers cyhoeddi, rydym wedi diweddaru'r llinell amser ar gyfer TGAU Y Gwyddorau (Gwobr Dwbl) a fydd nawr yn cael ei chyflwyno i'w haddysgu gyntaf o fis Medi 2026.


    In June 2023, we announced our decision to develop a new integrated single award Science GCSE, to sit alongside the double award. 

    As a reminder, the new double award GCSE in The Sciences will be available for first teaching from September 2025 and will replace the current separate Science and double award GCSEs in Wales. The majority of learners will study this new double award, which has been designed to support progression to AS and A levels in Biology, Chemistry and Physics. You can read the Approval Criteria for this new qualification here.  

    The new single award GCSE is being designed for learners who will benefit from studying a smaller volume of content than the double award. The single award will not support progression to AS and A levels in Biology, Chemistry or Physics, but will: 

    • give learners an opportunity to develop their understanding of science in the context of everyday life whilst studying for a GCSE in the subject

    • adopt a thematic approach to teaching and learning by drawing together elements of biology, chemistry and physics

    • offer the same level of challenge as all other GCSEs and appropriately assess learners at level 1 and level 2

    • enable learners to progress on to a range of other post-16 courses. 

    We acknowledge that some learners starting Year 10 in September 2025 may prefer to study a single award GCSE with a smaller volume of content that still aligns with the Curriculum for Wales. To meet the needs of these learners, WJEC will extend the existing GCSE Applied Science (Single Award) qualification until September 2026.   

    Since publication, we have updated the timeline for GCSE The Sciences (Double Award) which will now be introduced for first teaching from September 2026.