-
TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd / GCSE in Physical Education and Health
Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi’r rhestr o chwaraeon a gweithgareddau corfforol y bydd dysgwyr yn gallu dewis o’u plith i gwblhau asesiadau di-arholiad TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd.
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod nifer o chwaraeon a gweithgareddau newydd wedi’u cynnwys, gan gynnwys:
- Saethyddiaeth
- Rasio BMX
- Sglefrio Ffigyrau
- Futsal
- Pêl-law
- Cicfocsio
- Bowlio Lawnt
- Hoci Rholio
- Saethu
- Sglefrfyrddio
- Sglefrio Cyflym
- Twmblo
- Tonfyrddio
Mae’r rhestr lawn o chwaraeon a gweithgareddau wedi’i chyhoeddi yn y meini prawf cymeradwyo wedi’u diweddaru ar gyfer y TGAU.
Mae rhagor o wybodaeth am ein dull ar gael yma.
Qualifications Wales have published the list of sports and physical activities that learners will be able to choose from to complete non-exam assessments in GCSE Physical Education and Health.
We are excited to announce the inclusion of several new sports and activities, including:
- Archery
- BMX racing
- Figure Skating
- Futsal
- Handball
- Kickboxing
- Lawn Bowls
- Roller Hockey
- Shooting
- Skateboarding
- Speed Skating
- Tumbling
- Wakeboarding
The full list of sports and activities is published in the updated approval criteria for the GCSE.
For further information on our approach, click here.
-
Dweud eich Dweud am gymwysterau amgylchedd adeiliedig, iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant, a pheirianneg / Have Your Say on built environment, engineering and health and social care, and childcare
Mae Cymwysterau Cymru eisiau eich barn ar gynnig y Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd yn yr ‘amgylchedd adeiledig’, ‘iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant’, a ‘peirianneg’ fel cymwysterau TAAU yn hytrach na TGAU. Ewch ati i ddweud eich dweud a chwblhau'r ymgynghoriad erbyn dydd Llun 10 Mehefin 2024.
Qualifications Wales is seeking your views on whether National 14-16 Qualifications in built environment, engineering and health and social care and, childcare should be offered as VCSEs or as GCSEs. Have Your Say and complete the consultation by Monday 10 June 2024.
-
Meini prawf cymeradwyo ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth Integredig Gwneud-i-Gymru Newydd (Dyfarniad Unigol)/ Approval criteria for a new Made-for-Wales GCSE Integrated Science (Single Award)
Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi meini prawf cymeradwyo ar gyfer TGAU Gwyddoniaeth Integredig Gwneud-i-Gymru newydd.
Bydd y cymhwyster TGAU dyfarniad unigol hwn yn cyd-fynd â TGAU newydd Gwneud-i-Gymru yn y Gwyddorau (Dyfarniad Dwyradd), sydd wedi’i ddylunio i fod y prif gymhwyster gwyddoniaeth a gaiff ei sefyll gan y rhan fwyaf o bobl ifanc rhwng 14 ac 16 oed yng Nghymru.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi adroddiad sy'n amlinellu ein penderfyniadau dylunio a'n rhesymeg dros wneud hynny. Darllenwch yma: adroddiad-tgau-gwyddoniaeth-unigol-integredig.pdf (cymwysterau.cymru)
Qualifications Wales publishes approval criteria for a new Made-for-Wales Integrated Science GCSE.
This single award GCSE will sit alongside a new Made-for-Wales GCSE The Sciences (Double Award), which has been designed to be the main science qualification taken by the majority of 14 to 16-year-olds in Wales.
We have also published a report outlining the key design decisions we have taken and our rationale for doing so. This can be read here: gcse-integrated-single-science-report.pdf (qualifications.wales)
-
TGAU Gwneud-i-Gymru – amserlen Dysgu Proffesiynol yn fyw nawr! / Made-for-Wales GCSEs - Professional Learning schedule now live!
I gefnogi'r gyfres newydd o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig Gwneud-i-Gymru, mae CBAC yn falch o gyhoeddi'r amserlen newydd o gyfleoedd dysgu proffesiynol am ddim. Bydd y cyrsiau cenedlaethol hyn yn cael eu darparu gan arbenigwyr manyleb hyfforddedig ar gyfer y ton cyntaf o gymwysterau, lle bydd yr addysgu'n dechrau o fis Medi 2025.
TGAU Gwneud-i-Gymru – amserlen Dysgu Proffesiynol yn fyw nawr! (cbac.co.uk)
In support of the new suite of Made-for-Wales GCSEs and related qualifications, WJEC are pleased to announce the new schedule of free, professional learning opportunities. These nationwide courses will be delivered by trained specification experts for the first raft of qualifications, where teaching will begin from September 2025.
Made-for-Wales GCSEs - Professional Learning schedule now live! (wjec.co.uk)
-
Ymgynghoriad ar ganllawiau statudol drafft ar Ddysgu 14 i 16 yn y Cwricwlwm i Gymru/ Consultation on draft statutory guidance on 14 to 16 Learning in the Curriculum for Wales
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi lansio ymgynghoriad ar ganllawiau statudol drafft ar Ddysgu 14 i 16 yn y Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr ymgynghoriad ar agor hyd at 8 Mai 2024
Datganiad ysgrifenedig
Datganiad i’r wasg
Hoffai Llywodraeth Cymru gael eich barn ar ddysgu 14 i 16 o dan y Cwricwlwm i Gymru | LLYW.CYMRU
The Minster for Education and Welsh Language has launched a consultation on draft statutory guidance on 14 to 16 Learning in the Curriculum for Wales. Consultation window will be open to 8 May 2024
Written statement
Press notice
Welsh Government wants your views on 14 to 16 learning under the Curriculum for Wales | GOV.WALES
-
Amlinelliadau o'r cymwysterau Gwneud-i-Gymru ac adroddiad o'r ymgynghoriadau ar gael nawr / Made-for-Wales qualification outlines and consultation report now available
Mae CBAC wedi cyhoeddi bod eu hamlinelliadau cymwysterau terfynol wedi'u cyhoeddi ar gyfer cymwysterau sydd ar gael i'w haddysgu am y tro cyntaf o Fedi 2025. Darganfyddwch fwy yma.
WJEC have announced that their final qualification outlines are now published for qualifications available for first teaching from September 2025. Find out more here.
-
Cynllunio ymlaen - Blwyddyn 9 / Planning ahead- Year 9
Ar hyn o bryd, mae rhai dysgwyr yn astudio tuag at eu hopsiynau TGAU o Flwyddyn 9.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth ysgolion na fydd hyn yn briodol i ddysgwyr sy'n dechrau ym Mlwyddyn 9 ym mis Medi 2024. Y rheswm dros hyn yw nad yw'n darparu'r profiad eang a chytbwys o addysgu a dysgu sy'n ofynnol gan y Cwricwlwm i Gymru.
Llythyr gan Llywodraeth Cymru - Cwricwlwm Blwyddyn 9 a'r cymwysterau diwygiedig
At present, some learners study towards their chosen GCSE options from Year 9.
Welsh Government have told schools this will not be appropriate for learners starting Year 9 in September 2024. This is because it does not provide the broad and balanced experience of teaching and learning required by the Curriculum for Wales.
Welsh Government Letter - Year 9 Curriculum and Reformed GCSEs
-
Medi 2025 – Addysgu TGAU diwygiedig am y tro cyntaf / September 2025 – First teaching of reformed GCSEs
Bydd y rhan fwyaf o gymwysterau TGAU newydd yn cael eu haddysgu o fis Medi 2025. Mae hyn yn cynnwys Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a TGAU dyfarniad dwyradd yn y Gwyddorau.
Bydd nifer fach o TGAU etifeddol, mewn pynciau presennol fel Addysg Gorfforol, Dylunio a Thechnoleg ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, yn parhau i fod ar gael i ddysgwyr sydd eisiau eu dewis ym mis Medi 2025.
Bydd yr holl gymwysterau TGAU yn cael eu hastudio dros ddwy flynedd, gyda'r dyfarniad cyntaf o gymwysterau TGAU newydd yn haf 2027.
Most new GCSEs will be taught from September 2025. This includes English, Cymraeg, Maths and a double-award GCSE in the Sciences.
A small number of legacy GCSEs, in existing subjects like Physical Education, Design & Technology and Health & Social Care and Childcare, will remain available for learners who want to choose them in September 2025.
All GCSEs will be studied over two years, with the first award of new GCSEs in summer 2027.
-
Medi 2026 – Addysgu TGAU diwygiedig am y tro cyntaf mewn pynciau newydd / September 2026 – First teaching of reformed GCSEs in new subjects
O fis Medi 2026, bydd dysgwyr yn gallu dewis TGAU diwygiedig ym mhob pwnc.
Bydd nifer fach o gymwysterau TGAU diwygiedig yn cael eu haddysgu o fis Medi 2026. Mae hyn yn cynnwys y cymwysterau newydd Gwneud-i-Gymru fel Dawns neu Ffilm a Chyfryngau Digidol. Bydd y cymwysterau hyn yn cael eu dyfarnu am y tro cyntaf yn haf 2028.
From September 2026, learners will be able to choose reformed GCSEs in all subjects.
A small number of reformed GCSEs will be taught from September 2026. This includes the new made-for-Wales qualifications like Dance or Digital Media & Film. These qualifications will be awarded for the first time in summer 2028.
-
TGAU eraill ar gael / Other available GCSEs
Mae ein Datganiad o Fwriad Polisi ar y gyfres Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd yn amlinellu ein safbwynt ar ddynodi TGAU nad ydyn nhw wedi eu Gwneud-i-Gymru, i fodoli ochr yn ochr â'n TGAU Gwneud-i-Gymru newydd.
Rydym bellach wedi lansio ein hymgynghoriad ar sut y byddwn yn cymhwyso'r egwyddorion yn y datganiad hwn, a pha eithriadau i'r dull hwn y gallai fod eu hangen.
Erbyn diwedd 2024, byddwn yn cadarnhau a fydd unrhyw gymwysterau TGAU 9 -1 ar gael yng Nghymru o fis Medi 2025. Mater i gyrff dyfarnu ei ystyried fydd hi wedyn os ydynt yn dymuno gwneud cais i allu cynnig unrhyw un o'u TGAU 9-1, yn ddwyieithog, yng Nghymru.
O fis Medi 2027, ein bwriad yw y bydd ysgolion ond yn cynnig cymwysterau TGAU eraill nad ydyn nhw wedi’u Gwneud-i-Gymru o dan yr amgylchiadau canlynol:
nad oes TGAU Gwneud-i-Gymru tebyg, a
mae'r TGAU yn bodloni ein hegwyddorion arweiniol, fel a ganlyn:
Mae'n ymwneud â nodau a dibenion y Cwricwlwm i Gymru ac yn eu cefnogi;
Mae ar gael yn ddwyieithog; ac
Mae'n cyfrannu at ystod gydlynol a chynhwysol o gymwysterau sy'n diwallu anghenion pob dysgwr.
Mae ein gwefan yn cynnwys mwy o wybodaeth am ddynodi, ac mae gan ein cronfa ddata Cymwysterau yng Nghymru (QiW) wybodaeth am gymwysterau TGAU eraill sydd ar gael yng Nghymru ar hyn o bryd.
Our statement of policy intent on the new National 14-16 Qualifications suite sets out our position on the designation of GCSEs that are not made-for-Wales, to sit alongside our new made-for-Wales GCSEs.
We have now launched our consultation on how we will apply the principles in this statement, and what exceptions to this approach might be needed.
By the end of 2024, we will confirm whether awarding bodies will be able to apply to offer any 9-1 GCSEs in Wales. It will then be at the discretion of awarding bodies as to whether they wish to apply to be able to offer any of their 9-1 GCSEs, bilingually, in Wales.
From September 2027, our intention is that schools will only offer other GCSEs that were not made-for-Wales in the following circumstances:
there is no similar Made-for-Wales GCSE, and
the GCSE meets our guiding principles, as follows:
It relates to and support the aims and purposes of the Curriculum for Wales;
It is available bilingually; and
It contributes to a coherent and inclusive range of qualifications that meets the needs of all learners.
Our website includes more information about designation, and our database QiW has information on other GCSEs that are currently available in Wales.