-
CBAC: Ton 2 cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru a chymwysterau cysylltiedig – ymgynghoriadau ar gael nawr / WJEC: Wave 2 Made-for-Wales GCSEs and related qualifications consultations now open
Fel rhan o daith barhaus CBAC i gyd-awduro cyfres newydd o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig ar gyfer dysgwyr ledled Cymru, mae nhw yn falch o gyhoeddi bod ymgynghoriadau ar ei gynigion lefel uchel o ran strwythur a ffocws asesu ar gyfer Ton 2 y pynciau bellach yn fyw.
Mae'r ymgynghoriad yn berthnasol i bynciau yn ail don ei ddatblygiad a fydd ar gael i'w addysgu o fis Medi 2026.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ar 6/12/2024. I gael mynediad i'n hymgynghoriadau, ewch i'r dudalen we ganlynol.
As part of WJEC's continued journey to co-construct a new suite of GCSEs and related qualifications for learners across Wales, they are pleased to announce that consultation on their high-level proposals for the structure and focus of assessment for the Wave 2 subjects is now live.
The consultation applies to subjects within the second wave of their development which will be available for teaching from September 2026.
The consultations will close on 6/12/2024. To access our consultations, please visit the following webpage.
-
Rydym wedi cyhoeddi canllaw newydd i'r Cymwysterau Cenedlaethol / We’ve published a new guide to the National Qualifications
Heddiw, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi canllaw cynhwysfawr i gefnogi canolfannau yng Nghymru wrth drosglwyddo i'r Cymwysterau Cenedlaethol newydd.
Mae'r canllaw wedi'i gynllunio i helpu gweithwyr addysg proffesiynol ddeall y newidiadau i'r ddarpariaeth cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed o fis Medi 2025 a helpu canolfannau sydd wrthi’n paratoi yn barhaus.
Mae hefyd yn cynnwys pecyn cymorth i helpu canolfannau i roi gwybod am y cymwysterau newydd i ddysgwyr, a'u rhieni neu ofalwyr, llywodraethwyr a rhanddeiliaid allweddol lleol eraill.
Dysgwch fwy yma a lawrlwythwch y canllaw yma.
Today, Qualifications Wales has published a comprehensive guide to support centres in Wales with their transition to the new National Qualifications.
The guide has been designed to help educational professionals understand the changes to qualifications provision for 14 to 16-year-olds from September 2025 and aid centres’ continuing preparation.
It also includes a toolkit to help centres communicate the new qualifications to learners, and their parents or carers, governors and other key local stakeholders.
-
Cadarnhau’r dull o ddynodi cymwysterau 14-16 / Approach to designating 14-16 qualifications confirmed
Rydym wedi cadarnhau ein penderfyniadau ar y dull arfaethedig o ddynodi cymwysterau 14-16 i eistedd ochr yn ochr â'r gyfres Cymwysterau Cenedlaethol.
Daw'r penderfyniad hwn yn dilyn ymgynghoriad tri mis gyda rhanddeiliaid addysg yng ngwanwyn 2024.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
We have confirmed our decisions on the proposed approach to designating 14-16 qualifications to sit alongside the National Qualifications suite.
This decision comes following a three-month consultation with education stakeholders in spring 2024.
Find out more here.
-
Meini prawf cymeradwyo ar gyfer cymhwyster newydd TGAU Y Gwyddorau (Dyfarniad Dwbl) / Approval criteria for new GCSE The Sciences (Double Award)
Yn dilyn y cyhoeddiad y bydd cymhwyster TGAU Y Gwyddorau (Dyfarniad Dwbl) bellach yn cael ei gyflwyno i'w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026, rydyn ni wedi parhau i gynnwys ein rhanddeiliaid gan gynnwys y cymdeithasau dysgedig perthnasol yn ein gwaith. Gyda'n gilydd, rydyn ni wedi cytuno ar feini prawf cymeradwyo diwygiedig (yr amodau y mae angen i gorff dyfarnu eu bodloni er mwyn i'w cymhwyster gael ei gymeradwyo) ar gyfer y cymhwyster hwn.
Gallwch ddarllen y meini prawf cymeradwyo diwygiedig yn llawn yma.
Rydyn ni hefyd wedi cyhoeddi dogfen gwybodaeth gefndir sy'n esbonio'r newidiadau yn fanylach. Gellir ei gweld yma.
Following the announcement that GCSE The Sciences (Double Award) will now be introduced for first teaching from September 2026, we have continued to involve stakeholders including relevant learned societies in our work. Together, we have agreed revised approval criteria (the conditions an awarding body needs to meet for their qualification to be approved) for this qualification.
You can read the revised approval criteria in full here.
We have also published a background information document explaining the changes in further detail, which can be accessed here.
-
Canllawiau ar ddysgu 14 i 16 / 14 to 16 learning guidance
Mae’r canllawiau ar ddysgu 14 i 16 hyn yn llunio rhan o ganllawiau statudol Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.
Mae’r canllawiau wedi’u hanelu at benaethiaid ysgolion a gynhelir, gan gynnwys ysgolion arbennig a gynhelir. Gallai hefyd fod o gymorth i athro sy’n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion a’r pwyllgor rheoli gyfeirio at yr egwyddorion wrth gynllunio eu cwricwlwm.
Canllawiau ar ddysgu 14 i 16 - Hwb (gov.wales)
This 14 to 16 learning guidance forms part of the Curriculum for Wales Framework statutory guidance.
It is aimed at headteachers of maintained schools, including maintained special schools. It may also be helpful for a teacher in charge of a pupil referral unit (PRU) and its management committee to refer to the principles when designing their curriculum.
-
CBAC yn cyhoeddi manylebau terfynol ar gyfer TGAU wedi’u diwygio / WJEC publishes final specifications for reformed GCSEs
Yn dilyn cymeradwyaeth ein tîm rheoleiddio, mae CBAC, y corff dyfarnu ar gyfer cymwysterau TGAU, wedi cyhoeddi'r manylebau pwnc terfynol ar gyfer y TGAU diwygiedig fydd yn cael eu haddysgu mewn ysgolion am y tro cyntaf o fis Medi 2025.
Gweld y manylebau newydd: Cymeradwyo'r don gyntaf o gymwysterau Gwneud-i-Gymru (cbac.co.uk)
Following approval from our regulatory team, the awarding body for GCSEs, WJEC, has published the final subject specifications for the reformed GCSEs being taught in schools for the first time from September 2025.
View the new specifications: First wave of Made-for-Wales qualifications approved (wjec.co.uk)
-
TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant / GCSE Health and Social Care, and Childcare
Yn dilyn ymgynghoriad pellach ynghylch a ddylid datblygu iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant fel TGAU wedi diwygio neu gymhwyster TAAU mewn dull newydd, gallwn gadarnhau y bydd y pwnc yma yn parhau i gael ei gyflwyno fel TGAU o 2026.
Darllenwch fwy am y penderfyniad yma.
Following further consultation into whether health and social care, and childcare should be developed as a reformed GCSE or a new-style VCSE qualification, we can confirm this subject will continue to be delivered as a GCSE from 2026.
Read more on this decision here.
-
Manylebau Drafft Gwneud-i-Gymru ar gael yn awr / Draft Made-for-Wales specifications now available
Yn dilyn cyfnod dwys o ddatblygu cymwysterau, mae CBAC yn falch o gyhoeddi bod eu manylebau drafft ar gyfer y don gyntaf o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig Gwneud-i-Gymru ar gael i'w lawrlwytho.
Manylebau Drafft Gwneud-i-Gymru ar gael yn awr (cbac.co.uk)
Following a period of intense qualification development, WJEC are pleased to announce that draft specifications for the first wave of Made-for-Wales GCSEs and related qualifications are available to download.
Draft Made-for-Wales specifications now available (wjec.co.uk)
-
Dysgu Proffesiynol / Professional Learning
I gefnogi ein cyfres newydd o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig Gwneud-i-Gymru, mae CBAC yn falch o gyhoeddi eu hamserlen newydd o gyfleoedd dysgu proffesiynol am ddim. Bydd y cyrsiau cenedlaethol hyn yn cael eu darparu gan ein Cynghorwyr Pwnc ar gyfer y llu cyntaf o gymwysterau, lle bydd yr addysgu'n dechrau o fis Medi 2025.
TGAU wedi'i wneud i Gymru - Dysgu Proffesiynol (cbac.co.uk)
In support of the new suite of Made-for-Wales GCSEs and related qualifications, WJEC have announced a new schedule of free, professional learning opportunities. These nationwide courses will be delivered by Subject Advisers for the first raft of qualifications, where teaching will begin from September 2025.
-
Cyflwyno cymhwyster TGAU newydd yn Y Gwyddorau o 2026 / New The Sciences GCSE to be introduced from 2026
Bydd y cymhwyster TGAU newydd yn Y Gwyddorau (Dyfarniad Dwbl) - y prif gymhwyster gwyddoniaeth ar gyfer dysgwyr 14-16 oed - bellach yn cael ei gyflwyno i’w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026, yn hytrach na mis Medi 2025 fel y bwriadwyd yn wreiddiol. Caiff y fanyleb ei chyhoeddi ym mis Medi 2025, flwyddyn cyn yr addysgu cyntaf ym mis Medi 2026.
https://cymwysterau.cymru/newyddion-a-barn/cyflwyno-cymhwyster-tgau-newydd-yn-y-gwyddorau-o-2026/
The new GCSE The Sciences (Double Award) qualification – the main science qualification for learners aged 14-16 - will now be introduced for first teaching from September 2026, rather than September 2025 as originally intended. The specification will be published in September 2025, one year ahead of first teaching in September 2026.
https://qualifications.wales/news-views/new-the-sciences-gcse-to-be-introduced-from-2026/