Sut fydd ysgolion yn rheoli mwy o ddefnydd o asesiadau di-arholiad mewn cymwysterau TGAU newydd? / How will schools manage greater use of non-exam assessment (NEA) in new GCSEs?
Bydd y gyfres newydd o gymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru yn gwneud mwy o ddefnydd o asesiadau di-arholiad. Mae'r asesiadau hyn yn aml yn ddilys ac yn afaelgar i ddysgwyr, ac maen nhw’n helpu i sicrhau bod cymwysterau TGAU yn hygyrch ac yn gynhwysol i bob dysgwr.
Mae asesiad di-arholiad yn disgrifio amrywiaeth eang o wahanol fathau o asesu. Mae modd disgrifio unrhyw asesiad nad yw ar ffurf papur arholiad sy'n cael ei sefyll gan bob dysgwr ar yr un pryd fel asesiad di-arholiad. Mae'r rhan fwyaf o asesiadau di-arholiad yn seiliedig ar dasgau neu friffiau a gaiff eu gosod gan y corff dyfarnu.
Mae ein hadroddiad ar benderfyniadau yn nodi'r cydbwysedd gofynnol rhwng asesiadau arholiadau a’r rhai di-arholiad ar gyfer pob cymhwyster TGAU newydd.
The new suite of made-for-Wales GCSEs will make greater use of non-exam assessment. These assessments are often valid and engaging for learners, and they help to ensure GCSEs are accessible and inclusive for all learners.
Non-examination assessment describes a wide variety of different kinds of assessment. Any assessment that does not take the form of an examination paper that is sat by all learners at the same time can be described as non-examination assessment. Most non-examination assessments are based on tasks or briefs set by the awarding body.
Our decisions report sets out the required balance of examination and non-examination assessment for each new GCSE.
Thank you for your contribution!
Help us reach out to more people in the community
Share this with family and friends