TGAU eraill ar gael / Other available GCSEs

Mae ein Datganiad o Fwriad Polisi ar y gyfres CymwysterauCenedlaethol 14-16 newydd yn amlinellu ein safbwynt ar ddynodi TGAU nad ydyn nhw wedi eu Gwneud-i-Gymru, ifodoliochr yn ochr â'n TGAU Gwneud-i-Gymru newydd.

Rydym bellach wedi lansio ein hymgynghoriad ar sut y byddwn yn cymhwyso'r egwyddorion yn y datganiad hwn, a pha eithriadau i'r dull hwn y gallai fod eu hangen.

Erbyn diwedd 2024, byddwn yn cadarnhau a fydd unrhywgymwysterau TGAU 9 -1 ar gael yng Nghymru o fis Medi 2025. Mater i gyrff dyfarnu ei ystyried fydd hi wedyn os ydynt yn dymuno gwneud cais i allu cynnig unrhyw un o'u TGAU 9-1, yn ddwyieithog, yng Nghymru.

O fis Medi 2027, einbwriad yw y bydd ysgolion ond yn cynnig cymwysterau TGAU eraill nad ydyn nhw wedi’u Gwneud-i-Gymru o dan yr amgylchiadau canlynol:

  • nad oes TGAU Gwneud-i-Gymru tebyg, a

  • mae'r TGAU yn bodloni ein hegwyddorion arweiniol, fel a ganlyn:

  • Mae'n ymwneud â nodau a dibenion y Cwricwlwmi Gymru ac yn eu cefnogi;

  • Mae ar gael yn ddwyieithog; ac

  • Mae'n cyfrannu at ystod gydlynol a chynhwysol o gymwysterau sy'n diwallu anghenion pob dysgwr.

Mae ein gwefanyn cynnwys mwy o wybodaeth am ddynodi, ac mae gan ein cronfa ddataCymwysterau yng Nghymru (QiW)wybodaeth am gymwysterau TGAU eraill sydd ar gaelyngNghymru ar hyn o bryd. 



Our statement of policy intenton the new National 14-16 Qualifications suite sets out our position on the designation of GCSEs that are not made-for-Wales, to sit alongside our new made-for-Wales GCSEs.

We have now launched our consultation on how we will apply the principles in this statement, and what exceptions to this approach might be needed.

By the end of 2024, we will confirm whether awarding bodies will be able to apply to offer any 9-1 GCSEs in Wales. It will then be at the discretion of awarding bodies as to whether they wish to apply to be able to offer any of their 9-1 GCSEs, bilingually, in Wales. 

From September 2027, our intention is that schools will only offer other GCSEs that were not made-for-Wales in the following circumstances:

  • there is no similar Made-for-Wales GCSE, and

  • the GCSE meets our guiding principles, as follows:

  • It relates to and support the aims and purposes of the Curriculum for Wales;

  • It is available bilingually; and

  • It contributes to a coherent and inclusive range of qualifications that meets the needs of all learners.

Our website includes more information about designation, and our database QiW has information on other GCSEs that are currently available in Wales. 

Categories: GCSE, TGAU
<span class="translation_missing" title="translation missing: en.projects.blog_posts.show.load_comment_text">Load Comment Text</span>