Gwyddoniaeth a Thechnoleg: TGAU dyfarniad unigol newydd yn y Gwyddorau / Science & Technology: New single award GCSE in The Sciences
Ym mis Mehefin 2023, gwnaethom gyhoeddi ein penderfyniad i ddatblygu TGAU Gwyddoniaeth dyfarniad unigol integredig newydd, i eistedd ochr yn ochr â'r dyfarniad dwyradd.
Fel nodyn atgoffa, bydd y cymhwyster TGAU dwyradd newydd yn y Gwyddorau ar gael i'w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2025 a bydd yn disodli'r TGAU Gwyddoniaeth a dyfarniad dwyradd ar wahân presennol yng Nghymru. Bydd y rhan fwyaf o ddysgwyr yn astudio'r dyfarniad dwyradd newydd, sydd wedi'i ddylunio i gefnogi dilyniant i Safon UG a Safon Uwch mewn Bioleg, Cemeg a Ffiseg. Gallwch ddarllen y Meini Prawf Cymeradwyo ar gyfer y cymhwyster newydd hwn yma.
Mae'r TGAU dyfarniad unigol newydd yn cael ei ddylunio ar gyfer dysgwyr a fydd yn elwa o astudio llai o gynnwys na'r dyfarniad dwyradd. Ni fydd y dyfarniad unigol yn cefnogi dilyniant i Safon UG a Safon Uwch mewn Bioleg, Cemeg neu Ffiseg, ond bydd yn:
rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu dealltwriaeth o wyddoniaeth yng nghyd-destun bywyd bob dydd wrth astudio ar gyfer TGAU yn y pwnc
mabwysiadu dull thematig o addysgu a dysgu drwy dynnu elfennau o fioleg, cemeg a ffiseg ynghyd
cynnig yr un lefel o her â phob TGAU arall ac yn asesu dysgwyr ar lefel 1 a lefel 2 yn briodol
galluogi dysgwyr i symud ymlaen i ystod o gyrsiau ôl-16 eraill.
Rydyn ni’n cydnabod y gallai fod yn well gan rai dysgwyr sy'n dechrau ym Mlwyddyn 10 ym mis Medi 2025 astudio TGAU dyfarniad unigol gyda llai o gynnwys sy'n dal i gyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru. Er mwyn diwallu anghenion y dysgwyr hyn, bydd CBAC yn ymestyn y cymhwyster TGAU Gwyddoniaeth Gymhwysol (Dyfarniad Unigol) presennol tan fis Medi 2026.
Ers cyhoeddi, rydym wedi diweddaru'r llinell amser ar gyfer TGAU Y Gwyddorau (Gwobr Dwbl) a fydd nawr yn cael ei chyflwyno i'w haddysgu gyntaf o fis Medi 2026.
In June 2023, we announced our decision to develop a new integrated single award Science GCSE, to sit alongside the double award.
As a reminder, the new double award GCSE in The Sciences will be available for first teaching from September 2025 and will replace the current separate Science and double award GCSEs in Wales. The majority of learners will study this new double award, which has been designed to support progression to AS and A levels in Biology, Chemistry and Physics. You can read the Approval Criteria for this new qualification here.
The new single award GCSE is being designed for learners who will benefit from studying a smaller volume of content than the double award. The single award will not support progression to AS and A levels in Biology, Chemistry or Physics, but will:
give learners an opportunity to develop their understanding of science in the context of everyday life whilst studying for a GCSE in the subject
adopt a thematic approach to teaching and learning by drawing together elements of biology, chemistry and physics
offer the same level of challenge as all other GCSEs and appropriately assess learners at level 1 and level 2
enable learners to progress on to a range of other post-16 courses.
We acknowledge that some learners starting Year 10 in September 2025 may prefer to study a single award GCSE with a smaller volume of content that still aligns with the Curriculum for Wales. To meet the needs of these learners, WJEC will extend the existing GCSE Applied Science (Single Award) qualification until September 2026.
Since publication, we have updated the timeline for GCSE The Sciences (Double Award) which will now be introduced for first teaching from September 2026.
Thank you for your contribution!
Help us reach out to more people in the community
Share this with family and friends