Medi 2025 – Addysgu TGAU diwygiedig am y tro cyntaf / September 2025 – First teaching of reformed GCSEs

Bydd y rhan fwyaf o gymwysterau TGAU newydd yn cael eu haddysgu o fis Medi 2025. Mae hyn yn cynnwys Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a TGAU dyfarniad dwyradd yn y Gwyddorau.

Bydd nifer fach o TGAU etifeddol, mewn pynciau presennol fel Addysg Gorfforol, Dylunio a Thechnoleg ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant, yn parhau i fod ar gael i ddysgwyr sydd eisiau eu dewis ym mis Medi 2025.

Bydd yr holl gymwysterau TGAU yn cael eu hastudio dros ddwy flynedd, gyda'r dyfarniad cyntaf o gymwysterau TGAU newydd yn haf 2027.


Most new GCSEs will be taught from September 2025. This includes English, Cymraeg, Maths and a double-award GCSE in the Sciences.

A small number of legacy GCSEs, in existing subjects like Physical Education, Design & Technology and Health & Social Care and Childcare, will remain available for learners who want to choose them in September 2025.

All GCSEs will be studied over two years, with the first award of new GCSEs in summer 2027.

Categories: TGAU, GCSE
<span class="translation_missing" title="translation missing: en.projects.blog_posts.show.load_comment_text">Load Comment Text</span>