Cyfres Sgiliau / Skills Suite
Mae Cymwysterau Cymru wedi penderfynu bwrw ymlaen â datblygu cyfres o gymwysterau Sgiliau Gwaith a Sgiliau Bywyd, o lefel mynediad i lefel 2. Gydag ystod gyffrous o unedau fel Cymorth Cyntaf Sylfaenol, Llythrennedd Ariannol, Cynllunio a Pharatoi Bwyd, Technegau Cyfweld a Hyder, a Menter, byddan nhw’n cynnig unedau hyblyg byr y mae modd eu cyfuno i ennill dyfarniad, tystysgrif neu ddiploma.
Bydd y cymhwyster sy’n seiliedig ar brosiect, sy’n asesu’r sgiliau cyfannol sydd wedi’u rhestru yn y Cwricwlwm, hefyd yn cael ei ddatblygu o dan yr enw newydd ‘Prosiect Personol’. Bydd hyn ar gael o lefel mynediad i lefel 2.
Dilynwch y diweddariadau isod neu gofynnwch gwestiwn i ni am y cymwysterau sgiliau newydd. Rydyn ni’n monitro’r wefan hon yn rheolaidd ac yn anelu at ymateb o fewn tua 3 diwrnod gwaith.
Qualifications Wales has decided to go ahead with the development of a suite of Skills for Work and Skills for Life qualifications, from entry level to level 2. With an exciting range of units such as Basic First Aid, Financial Literacy, Food Planning and Preparation, Interview and Confidence Techniques, and Enterprise Venture, they will offer flexible bite-sized units that can be combined to achieve an award, certificate or diploma.
The project-based qualification, which assesses the integral skills listed in the Curriculum, will also be taken forward under the new name of ‘Personal Project’. This will be available from entry level to level 2.
Follow the updates below or ask us a question on the new skills qualifications. We regularly monitor this website and aim to respond in approximately 3 working days.
Mae Cymwysterau Cymru wedi penderfynu bwrw ymlaen â datblygu cyfres o gymwysterau Sgiliau Gwaith a Sgiliau Bywyd, o lefel mynediad i lefel 2. Gydag ystod gyffrous o unedau fel Cymorth Cyntaf Sylfaenol, Llythrennedd Ariannol, Cynllunio a Pharatoi Bwyd, Technegau Cyfweld a Hyder, a Menter, byddan nhw’n cynnig unedau hyblyg byr y mae modd eu cyfuno i ennill dyfarniad, tystysgrif neu ddiploma.
Bydd y cymhwyster sy’n seiliedig ar brosiect, sy’n asesu’r sgiliau cyfannol sydd wedi’u rhestru yn y Cwricwlwm, hefyd yn cael ei ddatblygu o dan yr enw newydd ‘Prosiect Personol’. Bydd hyn ar gael o lefel mynediad i lefel 2.
Dilynwch y diweddariadau isod neu gofynnwch gwestiwn i ni am y cymwysterau sgiliau newydd. Rydyn ni’n monitro’r wefan hon yn rheolaidd ac yn anelu at ymateb o fewn tua 3 diwrnod gwaith.
Qualifications Wales has decided to go ahead with the development of a suite of Skills for Work and Skills for Life qualifications, from entry level to level 2. With an exciting range of units such as Basic First Aid, Financial Literacy, Food Planning and Preparation, Interview and Confidence Techniques, and Enterprise Venture, they will offer flexible bite-sized units that can be combined to achieve an award, certificate or diploma.
The project-based qualification, which assesses the integral skills listed in the Curriculum, will also be taken forward under the new name of ‘Personal Project’. This will be available from entry level to level 2.
Follow the updates below or ask us a question on the new skills qualifications. We regularly monitor this website and aim to respond in approximately 3 working days.
-
Penderfyniadau dynodi / Designation decisions
Gall athrawon ac arweinwyr ysgolion ddod o hyd i restr o'r cymwysterau galwedigaethol a sgiliau na fydd ar gael mwyach o fis Medi 2027 yn ein llythyr i ganolfannau.
Teachers and school leaders can find a list of the vocational and skills qualifications that will no longer be available from September 2027 in our letter to centres.
-
Meini prawf cydnabod Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 yn cael eu cyhoeddi heddiw / National 14-16 Qualifications recognition criteria published today
Heddiw mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ei benderfyniadau ar feini prawf cydnabod i gyrff dyfarnu sy'n datblygu Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.
Meini prawf cydnabod Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 yn cael eu cyhoeddi heddiw | Cymwysterau Cymru
Qualifications Wales has today published its decisions on recognition criteria for awarding bodies developing new National 14-16 Qualifications, following a public consultation.
National 14-16 Qualifications recognition criteria published today | Qualifications Wales
-
Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi meini prawf cymeradwyo ar gyfer y Gyfres Sgiliau / Qualifications Wales publishes Skills Suite approval criteria
Gall cyrff dyfarnu ddechrau datblygu'r drydedd don o Gymwysterau Cenedlaethol, y don olaf, ers cyhoeddi’r meini prawf cymeradwyo.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Awarding bodies can begin developing the third and final wave of National Qualifications following publication of the approval criteria.
Find out more here.
-
Rydym wedi cyhoeddi canllaw newydd i'r Cymwysterau Cenedlaethol / We’ve published a new guide to the National Qualifications
Heddiw, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi canllaw cynhwysfawr i gefnogi canolfannau yng Nghymru wrth drosglwyddo i'r Cymwysterau Cenedlaethol newydd.
Mae'r canllaw wedi'i gynllunio i helpu gweithwyr addysg proffesiynol ddeall y newidiadau i'r ddarpariaeth cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed o fis Medi 2025 a helpu canolfannau sydd wrthi’n paratoi yn barhaus.
Mae hefyd yn cynnwys pecyn cymorth i helpu canolfannau i roi gwybod am y cymwysterau newydd i ddysgwyr, a'u rhieni neu ofalwyr, llywodraethwyr a rhanddeiliaid allweddol lleol eraill.
Dysgwch fwy yma a lawrlwythwch y canllaw yma.
Today, Qualifications Wales has published a comprehensive guide to support centres in Wales with their transition to the new National Qualifications.
The guide has been designed to help educational professionals understand the changes to qualifications provision for 14 to 16-year-olds from September 2025 and aid centres’ continuing preparation.
It also includes a toolkit to help centres communicate the new qualifications to learners, and their parents or carers, governors and other key local stakeholders.
-
Cadarnhau’r dull o ddynodi cymwysterau 14-16 / Approach to designating 14-16 qualifications confirmed
Rydym wedi cadarnhau ein penderfyniadau ar y dull arfaethedig o ddynodi cymwysterau 14-16 i eistedd ochr yn ochr â'r gyfres Cymwysterau Cenedlaethol.
Daw'r penderfyniad hwn yn dilyn ymgynghoriad tri mis gyda rhanddeiliaid addysg yng ngwanwyn 2024.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
We have confirmed our decisions on the proposed approach to designating 14-16 qualifications to sit alongside the National Qualifications suite.
This decision comes following a three-month consultation with education stakeholders in spring 2024.
Find out more here.
-
Ymgynghoriad ar feini prawf cydnabod Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 / Consultation on National 14-16 Qualifications recognition criteria
Rydyn ni’n datblygu meini prawf cydnabod cymwysterau penodol ar gyfer cyrff dyfarnu sy’n cynnig cymwysterau TAAU, Sylfaen, Sgiliau a Phrosiect.
Pwrpas y meini prawf drafft yw sicrhau bod gan gyrff dyfarnu sy'n cynnig y cymwysterau yr adnoddau a'r gweithdrefnau angenrheidiol ar waith i wneud hynny.
Ewch ati i ddweud eich dweud a drwy gymryd rhan yn ein ymgynghoriad isod cyn iddo gau ddydd Gwener 22 Tachwedd.
We are developing qualification specific recognition criteria for awarding bodies offering VCSEs, Foundation, Skills and Project qualifications.
The purpose of the draft criteria is to ensure that awarding bodies offering the qualifications have the necessary resources and procedures in place to do so.
Please have your say and complete the consultation below before it closes on Friday 22 November.
-
Meini Prawf Cymeradwyo Drafft / Draft Approval Criteria
Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cyhoeddi'r meini prawf cymeradwyo drafft ar gyfer Cymwysterau Cenedlaethol. Rydym yn eich gwahodd i ddarllen y meini prawf cymeradwyo drafft a rhoi eich adborth. Bydd yr arolwg yn cau ddydd Mercher 23 Hydref 2024.
CC1416 Meini Prawf Cymeradwyo | dweudeichdweud.cymwysterau.cymru
We are pleased to announce that we have published the draft approval criteria for National Qualifications. You are invited to read the draft approval criteria and provide your feedback. The survey will close on Wednesday 23 October 2024.
N1416Q Draft Approval Criteria | Have your say - Qualifications Wales
-
Canllawiau ar ddysgu 14 i 16 / 14 to 16 learning guidance
Mae’r canllawiau ar ddysgu 14 i 16 hyn yn llunio rhan o ganllawiau statudol Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.
Mae’r canllawiau wedi’u hanelu at benaethiaid ysgolion a gynhelir, gan gynnwys ysgolion arbennig a gynhelir. Gallai hefyd fod o gymorth i athro sy’n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion a’r pwyllgor rheoli gyfeirio at yr egwyddorion wrth gynllunio eu cwricwlwm.
Canllawiau ar ddysgu 14 i 16 - Hwb (gov.wales)
This 14 to 16 learning guidance forms part of the Curriculum for Wales Framework statutory guidance.
It is aimed at headteachers of maintained schools, including maintained special schools. It may also be helpful for a teacher in charge of a pupil referral unit (PRU) and its management committee to refer to the principles when designing their curriculum.
-
Ymgynghoriad ar ganllawiau statudol drafft ar Ddysgu 14 i 16 yn y Cwricwlwm i Gymru/ Consultation on draft statutory guidance on 14 to 16 Learning in the Curriculum for Wales
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi lansio ymgynghoriad ar ganllawiau statudol drafft ar Ddysgu 14 i 16 yn y Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr ymgynghoriad ar agor hyd at 8 Mai 2024
Datganiad ysgrifenedig
Datganiad i’r wasg
Hoffai Llywodraeth Cymru gael eich barn ar ddysgu 14 i 16 o dan y Cwricwlwm i Gymru | LLYW.CYMRU
The Minster for Education and Welsh Language has launched a consultation on draft statutory guidance on 14 to 16 Learning in the Curriculum for Wales. Consultation window will be open to 8 May 2024
Written statement
Press notice
Welsh Government wants your views on 14 to 16 learning under the Curriculum for Wales | GOV.WALES
-
Y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16 / The Full 14-16 Qualifications Offer
Buom yn gofyn am eich barn ar y cynigion hyn yn ein hymgynghoriad cyhoeddus rhwng 14 Mawrth a 14 Mehefin 2023. Ar ôl dadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad, fe wnaethon ni gyhoeddi ein penderfyniadau ymgynghori ar y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16 ym mis Ionawr 2024. Gallwch ddarllen ein hadroddiad penderfyniadau a dogfennau eraill sy'n cefnogi'r gwaith ar ein gwefan.
We asked for your views on these proposals in our public consultation between 14 March and 14 June 2023. After analysing the consultation responses, we published our Full 14-16 Qualifications Offer consultation decisions in January 2024. You can read our decisions report and other supporting documents on our website.
Pwy sy'n Gwrando / Who's listening?
-
Uwch Reolwr Cymwysterau / Senior Qualifications Manager
-
Rheolwr Cymwysterau / Qualifications Manager
Pwy sy'n gwrando? Who's listening?
-
Tîm Diwygio / Reform Team
Partneriaid / Partners
-
Dysg@llyw.cymru / Dysg@gov.wales

