Skip To

  • Skip to content
  • Jump to navigation
  • Search

Page Outlines

Loading...

    IE10 and below are not supported.

    Google Chrome Mozilla Firefox

    Contact us for any help on browser support

    Cyfres Sgiliau Skills Suite

    You are here:

    • Home
    • National 14-16 Qualifications
    • Cyfres Sgiliau / Skills Suite
    • Meini prawf cydnabod Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 yn cael eu cyhoeddi heddiw / National 14-16 Qualifications recognition criteria published today

      Heddiw mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi ei benderfyniadau ar feini prawf cydnabod i gyrff dyfarnu sy'n datblygu Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.

      Meini prawf cydnabod Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 yn cael eu cyhoeddi heddiw | Cymwysterau Cymru



      Qualifications Wales has today published its decisions on recognition criteria for awarding bodies developing new National 14-16 Qualifications, following a public consultation.

      National 14-16 Qualifications recognition criteria published today | Qualifications Wales

    • Cymwysterau Cymru yn cyhoeddi meini prawf cymeradwyo ar gyfer y Gyfres Sgiliau / Qualifications Wales publishes Skills Suite approval criteria

      Gall cyrff dyfarnu ddechrau datblygu'r drydedd don o Gymwysterau Cenedlaethol, y don olaf, ers cyhoeddi’r meini prawf cymeradwyo.

      Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.



      Awarding bodies can begin developing the third and final wave of National Qualifications following publication of the approval criteria.

      Find out more here.

    • Rydym wedi cyhoeddi canllaw newydd i'r Cymwysterau Cenedlaethol / We’ve published a new guide to the National Qualifications  

      Heddiw, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi canllaw cynhwysfawr i gefnogi canolfannau yng Nghymru wrth drosglwyddo i'r Cymwysterau Cenedlaethol newydd. 

      Mae'r canllaw wedi'i gynllunio i helpu gweithwyr addysg proffesiynol ddeall y newidiadau i'r ddarpariaeth cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed o fis Medi 2025 a helpu canolfannau sydd wrthi’n paratoi yn barhaus.

      Mae hefyd yn cynnwys pecyn cymorth i helpu canolfannau i roi gwybod am y cymwysterau newydd i ddysgwyr, a'u rhieni neu ofalwyr, llywodraethwyr a rhanddeiliaid allweddol lleol eraill.

      Dysgwch fwy yma a lawrlwythwch y canllaw yma.



      Today, Qualifications Wales has published a comprehensive guide to support centres in Wales with their transition to the new National Qualifications. 

      The guide has been designed to help educational professionals understand the changes to qualifications provision for 14 to 16-year-olds from September 2025 and aid centres’ continuing preparation.

      It also includes a toolkit to help centres communicate the new qualifications to learners, and their parents or carers, governors and other key local stakeholders.

      Find out more here and download the guide here.

    • Cadarnhau’r dull o ddynodi cymwysterau 14-16 / Approach to designating 14-16 qualifications confirmed

      Rydym wedi cadarnhau ein penderfyniadau ar y dull arfaethedig o ddynodi cymwysterau 14-16 i eistedd ochr yn ochr â'r gyfres Cymwysterau Cenedlaethol.

      Daw'r penderfyniad hwn yn dilyn ymgynghoriad tri mis gyda rhanddeiliaid addysg yng ngwanwyn 2024.

      Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.



      We have confirmed our decisions on the proposed approach to designating 14-16 qualifications to sit alongside the National Qualifications suite.

      This decision comes following a three-month consultation with education stakeholders in spring 2024.

      Find out more here.

    • Ymgynghoriad ar feini prawf cydnabod Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 / Consultation on National 14-16 Qualifications recognition criteria

      Rydyn ni’n datblygu meini prawf cydnabod cymwysterau penodol ar gyfer cyrff dyfarnu sy’n cynnig cymwysterau TAAU, Sylfaen, Sgiliau a Phrosiect.

      Pwrpas y meini prawf drafft yw sicrhau bod gan gyrff dyfarnu sy'n cynnig y cymwysterau yr adnoddau a'r gweithdrefnau angenrheidiol ar waith i wneud hynny.

      Ewch ati i ddweud eich dweud a drwy gymryd rhan yn ein ymgynghoriad isod cyn iddo gau ddydd Gwener 22 Tachwedd.

      Ymgynghoriad ar feini prawf cydnabod Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 | dweudeichdweud.cymwysterau.cymru



      We are developing qualification specific recognition criteria for awarding bodies offering VCSEs, Foundation, Skills and Project qualifications.

      The purpose of the draft criteria is to ensure that awarding bodies offering the qualifications have the necessary resources and procedures in place to do so.

      Please have your say and complete the consultation below before it closes on Friday 22 November.

      Consultation on National 14-16 Qualifications recognition criteria | Have your say - Qualifications Wales

    • Meini Prawf Cymeradwyo Drafft / Draft Approval Criteria

      Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod wedi cyhoeddi'r meini prawf cymeradwyo drafft ar gyfer Cymwysterau Cenedlaethol. Rydym yn eich gwahodd i ddarllen y meini prawf cymeradwyo drafft a rhoi eich adborth. Bydd yr arolwg yn cau ddydd Mercher 23 Hydref 2024.

      CC1416 Meini Prawf Cymeradwyo | dweudeichdweud.cymwysterau.cymru



      We are pleased to announce that we have published the draft approval criteria for National Qualifications. You are invited to read the draft approval criteria and provide your feedback. The survey will close on Wednesday 23 October 2024.

      N1416Q Draft Approval Criteria | Have your say - Qualifications Wales

    • Canllawiau ar ddysgu 14 i 16 / 14 to 16 learning guidance

      Mae’r canllawiau ar ddysgu 14 i 16 hyn yn llunio rhan o ganllawiau statudol Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.

      Mae’r canllawiau wedi’u hanelu at benaethiaid ysgolion a gynhelir, gan gynnwys ysgolion arbennig a gynhelir. Gallai hefyd fod o gymorth i athro sy’n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion a’r pwyllgor rheoli gyfeirio at yr egwyddorion wrth gynllunio eu cwricwlwm.

      Canllawiau ar ddysgu 14 i 16 - Hwb (gov.wales)



      This 14 to 16 learning guidance forms part of the Curriculum for Wales Framework statutory guidance.

      It is aimed at headteachers of maintained schools, including maintained special schools. It may also be helpful for a teacher in charge of a pupil referral unit (PRU) and its management committee to refer to the principles when designing their curriculum.

      14 to 16 learning guidance - Hwb (gov.wales)

    • Ymgynghoriad ar ganllawiau statudol drafft ar Ddysgu 14 i 16 yn y Cwricwlwm i Gymru/ Consultation on draft statutory guidance on 14 to 16 Learning in the Curriculum for Wales

      Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi lansio ymgynghoriad ar ganllawiau statudol drafft ar Ddysgu 14 i 16 yn y Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr ymgynghoriad ar agor hyd at 8 Mai 2024

      Datganiad ysgrifenedig

      Datganiad Ysgrifenedig: Dysgu 14 i 16 o fewn Cwricwlwm i Gymru – ymgynghoriad ar ganllawiau statudol (28 Chwefror 2024) | LLYW.CYMRU

      Datganiad i’r wasg

      Hoffai Llywodraeth Cymru gael eich barn ar ddysgu 14 i 16 o dan y Cwricwlwm i Gymru | LLYW.CYMRU



      The Minster for Education and Welsh Language has launched a consultation on draft statutory guidance on 14 to 16 Learning in the Curriculum for Wales. Consultation window will be open to 8 May 2024

      Written statement

      Written Statement: 14 to 16 learning in the Curriculum for Wales – statutory guidance consultation (28 February 2024) | GOV.WALES

      Press notice

      Welsh Government wants your views on 14 to 16 learning under the Curriculum for Wales | GOV.WALES

    • Y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16 / The Full 14-16 Qualifications Offer

      Buom yn gofyn am eich barn ar y cynigion hyn yn ein hymgynghoriad cyhoeddus rhwng 14 Mawrth a 14 Mehefin 2023. Ar ôl dadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad, fe wnaethon ni gyhoeddi ein penderfyniadau ymgynghori ar y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16 ym mis Ionawr 2024. Gallwch ddarllen ein hadroddiad penderfyniadau a dogfennau eraill sy'n cefnogi'r gwaith ar ein gwefan. 


      We asked for your views on these proposals in our public consultation between 14 March and 14 June 2023. After analysing the consultation responses, we published our Full 14-16 Qualifications Offer consultation decisions in January 2024. You can read our decisions report and other supporting documents on our website.