Gall cyrff dyfarnu ddechrau datblygu'r drydedd don o Gymwysterau Cenedlaethol, y don olaf, ers cyhoeddi’r meini prawf cymeradwyo.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Awarding bodies can begin developing the third and final wave of National Qualifications following publication of the approval criteria.
Find out more here.
Heddiw, mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi canllaw cynhwysfawr i gefnogi canolfannau yng Nghymru wrth drosglwyddo i'r Cymwysterau Cenedlaethol newydd.
Mae'r canllaw wedi'i gynllunio i helpu gweithwyr addysg proffesiynol ddeall y newidiadau i'r ddarpariaeth cymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 16 oed o fis Medi 2025 a helpu canolfannau sydd wrthi’n paratoi yn barhaus.
Mae hefyd yn cynnwys pecyn cymorth i helpu canolfannau i roi gwybod am y cymwysterau newydd i ddysgwyr, a'u rhieni neu ofalwyr, llywodraethwyr a rhanddeiliaid allweddol lleol eraill.
Dysgwch fwy yma a lawrlwythwch y canllaw yma.
Today, Qualifications Wales has published a comprehensive guide to support centres in Wales with their transition to the new National Qualifications.
The guide has been designed to help educational professionals understand the changes to qualifications provision for 14 to 16-year-olds from September 2025 and aid centres’ continuing preparation.
It also includes a toolkit to help centres communicate the new qualifications to learners, and their parents or carers, governors and other key local stakeholders.
Find out more here and download the guide here.
Rydym wedi cadarnhau ein penderfyniadau ar y dull arfaethedig o ddynodi cymwysterau 14-16 i eistedd ochr yn ochr â'r gyfres Cymwysterau Cenedlaethol.
Daw'r penderfyniad hwn yn dilyn ymgynghoriad tri mis gyda rhanddeiliaid addysg yng ngwanwyn 2024.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
We have confirmed our decisions on the proposed approach to designating 14-16 qualifications to sit alongside the National Qualifications suite.
This decision comes following a three-month consultation with education stakeholders in spring 2024.
Find out more here.
Mae’r canllawiau ar ddysgu 14 i 16 hyn yn llunio rhan o ganllawiau statudol Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.
Mae’r canllawiau wedi’u hanelu at benaethiaid ysgolion a gynhelir, gan gynnwys ysgolion arbennig a gynhelir. Gallai hefyd fod o gymorth i athro sy’n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion a’r pwyllgor rheoli gyfeirio at yr egwyddorion wrth gynllunio eu cwricwlwm.
Canllawiau ar ddysgu 14 i 16 - Hwb (gov.wales)
This 14 to 16 learning guidance forms part of the Curriculum for Wales Framework statutory guidance.
It is aimed at headteachers of maintained schools, including maintained special schools. It may also be helpful for a teacher in charge of a pupil referral unit (PRU) and its management committee to refer to the principles when designing their curriculum.
14 to 16 learning guidance - Hwb (gov.wales)
Buom yn gofyn am eich barn ar y cynigion hyn yn ein hymgynghoriad cyhoeddus rhwng 14 Mawrth a 14 Mehefin 2023. Ar ôl dadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad, fe wnaethon ni gyhoeddi ein penderfyniadau ymgynghori ar y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16 ym mis Ionawr 2024. Gallwch ddarllen ein hadroddiad penderfyniadau a dogfennau eraill sy'n cefnogi'r gwaith ar ein gwefan.
We asked for your views on these proposals in our public consultation between 14 March and 14 June 2023. After analysing the consultation responses, we published our Full 14-16 Qualifications Offer consultation decisions in January 2024. You can read our decisions report and other supporting documents on our website.