Moderneiddio Asesu / Modernising Assessment

Mae Cymwysterau Cymru bob amser wedi ceisio gwneud y defnydd gorau o'r technolegau digidol sydd ar gael i ddysgwyr a chanolfannau yng Nghymru, wrth ddatblygu cymwysterau newydd. Mae hyn wedi cynnwys defnyddio technoleg i gasglu tystiolaeth sy'n digwydd yn naturiol o gynnydd prentisiaid yn y gweithle i arholiadau ar y sgrin yn gyffredinol.

Rydyn ni wedi sefydlu tîm moderneiddio asesu i sicrhau bod dysgwyr yn parhau i elwa o arloesi digidol yn y system gymwysterau. Mae’r tîm yn gweithio gyda rhanddeiliaid i archwilio’r manteision y gall technolegau digidol eu cynnig. Mae'r tîm yn defnyddio ei ganfyddiadau i ddylanwadu ar newid cadarnhaol a chefnogi datblygiad polisi cymwysterau. Mae ein dull gweithredu yn canolbwyntio ar dechnolegau a all fod o fudd i hydrinedd, gafaelgarwch, dibynadwyedd a dilysrwydd asesiadau, neu gyfuniad o'r egwyddorion hyn.

Dilynwch ddiweddariadau gan ein tîm asesu moderneiddio isod, ac ystyriwch rannu eich barn a'ch profiadau gyda ni.

Qualifications Wales has always sought to make best use of the digital technologies available to learners and centres in Wales, when developing new qualifications. This has included using technology to capture naturally occurring evidence of apprentices’ progress in the workplace to on-screen examinations in general.

We have established a modernising assessment team to ensure that learners continue to benefit from digital innovation in the qualification system. The team works with stakeholders to explore the benefits that digital technologies can offer. The team uses its findings to influence positive change and support the development of qualifications policy. Our approach focuses on technologies that can benefit the manageability, engagement, reliability and validity of assessments, or a combination of these principles.

Follow updates from our modernising assessment team below, and please consider sharing your views and experiences with us.

  • Asesu ffurfiannol / Formative assessment

    Mae ysgolion wedi bod yn rhannu eu profiadau o ddefnyddio technolegau digidol mewn asesiadau ffurfiannol gyda ni. Gallwch ddarllen am eu profiadau yma.

    Rydyn ni wedi bod yn ymchwilio i’r maes hwn gydag ysgolion oherwydd bod technolegau digidol yn dod yn fwyfwy amlwg o fewn addysg yng Nghymru. Mae'r gwaith hwn yn ein helpu i ddeall yn well sut mae ysgolion yn defnyddio technolegau mewn addysgu a dysgu, a'u rhesymau dros eu defnyddio.

    Rydyn ni am barhau i ddysgu am oruchwylio o bell ac rydyn ni’n gwahodd ysgolion i rannu eu henghreifftiau o ddefnyddio technolegau digidol mewn asesiadau ffurfiannol gyda ni, trwy glicio yma.

    Schools have been sharing their experiences of using digital technologies in formative assessments with us. You can read about their experiences here.

    We have been exploring this area with schools because digital technologies are growing in prominence within education in Wales. This work helps us to better understand the ways in which schools are engaging with technologies in teaching and learning, and their reasons for using them.

    We want to continue our learning of remote invigilation and we invite schools to share their examples of using digital technologies in formative assessments with us here.

  • Goruchwylio o bell / Remote invigilation

    Wrth i asesiadau a oruchwyliwyd o bell gynyddu mewn amlygrwydd yn ystod pandemig COVID-19, gwnaethom ofyn i gyrff dyfarnu rannu eu barn a'u profiadau yn y maes datblygol hwn gyda ni.

    Rydyn ni bellach wedi cyhoeddi adroddiad cryno o gyfres o gyfweliadau a gynhaliwyd gennym gyda chynrychiolwyr cyrff dyfarnu yn trafod goruchwylio o bell a'r technolegau cysylltiedig. Mae'r gwaith hwn wedi ein helpu i ddeall sut mae'r dechnoleg hon wedi siapio'r cymwysterau a gynigir a sut mae cyrff dyfarnu yn ei defnyddio er budd dysgwyr.

    Gallwch ddarllen y crynodeb llawn yma.

    Rydyn ni nawr yn gofyn i ddysgwyr rannu eu profiadau o sefyll asesiadau wedi’u goruchwylio o bell gyda ni drwy ddefnyddio'r ffurflen hon.

    As remotely invigilated assessments grew in prominence during the COVID-19 pandemic, we asked awarding bodies to share their views and experiences in this developing area with us.

    We have now published a summary report of a series of interviews we undertook with awarding bodies representatives discussing remote invigilation and the technologies involved. This work has helped us to understand how this technology has shaped the qualifications offer and how awarding bodies use it to benefit learners.

    You can read the full summary here .

    We are now asking learners to share their experiences of taking remotely invigilated assessments with us by using this form.

Page last updated: 10 Sep 2024, 10:26 AM