• Skip to main content
  • Jump to navigation
  • Search

IE10 and below are not supported.

Google Chrome Mozilla Firefox

Contact us for any help on browser support

TAAU VCSE

You are here:

  • Home
  • National 14-16 Qualifications
  • TAAU / VCSE
  • Dweud eich Dweud am gymwysterau amgylchedd adeiliedig, iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant, a pheirianneg / Have Your Say on built environment, engineering and health and social care, and childcare

    Mae Cymwysterau Cymru eisiau eich barn ar gynnig y Cymwysterau Cenedlaethol 14-16 newydd yn yr ‘amgylchedd adeiledig’, ‘iechyd a gofal cymdeithasol, a gofal plant’, a ‘peirianneg’ fel cymwysterau TAAU yn hytrach na TGAU. Ewch ati i ddweud eich dweud a chwblhau'r ymgynghoriad erbyn dydd Llun 10 Mehefin 2024.



    Qualifications Wales is seeking your views on whether National 14-16 Qualifications in built environment, engineering and health and social care and, childcare should be offered as VCSEs or as GCSEs. Have Your Say and complete the consultation by Monday 10 June 2024.

  • Grwpiau Pwnc TAAU / VCSE Subject Groups

    Rydym yn chwilio am athrawon pwnc i gymryd rhan yn ein grwpiau pwnc TAAU sydd i ddod.

    Mae'r grwpiau pwnc TAAU wedi'u targedu at athrawon pwnc ac arweinwyr cwricwlwm sy'n dysgu'r meysydd pwnc rhwng 14-16. Byddai hyn yn golygu mynychu un gweithdy ar-lein a gynhelir yn ystod mis Ebrill - Mehefin (dyddiadau i'w cadarnhau).

    Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno, gallwch lenwi'r ffurflen hon erbyn Dydd Gwener 12fed Ebrill.


    We are looking for school subject teachers to be involved in our upcoming VCSE subject groups.

    The VCSE subject groups are targeted at subject teachers and curriculum leads that teach these subject areas at 14-16. This would entail attending one online workshop to be held during April - June (dates to be confirmed).

    If you are interested in joining please can you fill in this form by Friday 12 April.

  • Ymgynghoriad ar ganllawiau statudol drafft ar Ddysgu 14 i 16 yn y Cwricwlwm i Gymru/ Consultation on draft statutory guidance on 14 to 16 Learning in the Curriculum for Wales

    Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi lansio ymgynghoriad ar ganllawiau statudol drafft ar Ddysgu 14 i 16 yn y Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr ymgynghoriad ar agor hyd at 8 Mai 2024

    Datganiad ysgrifenedig

    Datganiad Ysgrifenedig: Dysgu 14 i 16 o fewn Cwricwlwm i Gymru – ymgynghoriad ar ganllawiau statudol (28 Chwefror 2024) | LLYW.CYMRU

    Datganiad i’r wasg

    Hoffai Llywodraeth Cymru gael eich barn ar ddysgu 14 i 16 o dan y Cwricwlwm i Gymru | LLYW.CYMRU



    The Minster for Education and Welsh Language has launched a consultation on draft statutory guidance on 14 to 16 Learning in the Curriculum for Wales. Consultation window will be open to 8 May 2024

    Written statement

    Written Statement: 14 to 16 learning in the Curriculum for Wales – statutory guidance consultation (28 February 2024) | GOV.WALES

    Press notice

    Welsh Government wants your views on 14 to 16 learning under the Curriculum for Wales | GOV.WALES

  • Y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16 / The Full 14-16 Qualifications Offer

    Buom yn gofyn am eich barn ar y cynigion hyn yn ein hymgynghoriad cyhoeddus rhwng 14 Mawrth a 14 Mehefin 2023. Ar ôl dadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad, fe wnaethon ni gyhoeddi ein penderfyniadau ymgynghori ar y Cynnig Llawn o Gymwysterau 14-16 ym mis Ionawr 2024. Gallwch ddarllen ein hadroddiad penderfyniadau a dogfennau eraill sy'n cefnogi'r gwaith ar ein gwefan. 


    We asked for your views on these proposals in our public consultation between 14 March and 14 June 2023. After analysing the consultation responses, we published our Full 14-16 Qualifications Offer consultation decisions in January 2024. You can read our decisions report and other supporting documents on our website.

  • Previous
  • 1
  • 2
  • Next