Category iechydalles Show all
-
Iechyd a Lles: Diweddariad ar TGAU Addysg Gorfforol ac Iechyd / Health and Wellbeing: GCSE Physical Education and Health update
Ym mis Mehefin 2023, gwnaethom gyhoeddi Meini Prawf Cymeradwyo ar gyfer TGAU newydd Gwneud-i-Gymru mewn Addysg Gorfforol ac Iechyd, a fydd ar gael i'w addysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2026.
Bydd 60% o'r cymhwyster hwn yn cael ei asesu drwy asesiad di-arholiad lle bydd yn rhaid i ddysgwyr:
berfformio mewn dwy gamp neu weithgaredd corfforol wedi'u dewis o restr Gymeradwy
cynnig hyfforddi neu hyfforddiant personol i eraill mewn camp neu weithgaredd corfforol wedi'u dewis o restr Gymeradwy.
Yn ystod y misoedd diwethaf rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i gyd-greu'r rhestr Gymeradwy o gampau a gweithgareddau corfforol y bydd dysgwyr yn dewis ohonyn nhw. Byddwn yn defnyddio meini prawf i benderfynu beth ddylai gael ei gynnwys ar y rhestr Gymeradwy, ond bydd yn cynnwys ystod ddiddorol a chynhwysol o gampau a gweithgareddau corfforol unigol a thîm priodol.
Fe wnaethom gynnal arolwg ar-lein ym mis Tachwedd 2023 i gasglu adborth ar ein meini prawf arfaethedig ac i alluogi rhanddeiliaid i awgrymu pa gampau a gweithgareddau corfforol ddylai gael eu cynnwys.
Ar hyn o bryd rydyn ni’n gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ystyried yr adborth i'r arolwg hwn. Rydyn ni’n bwriadu cyhoeddi'r meini prawf a'r rhestr Gymeradwy yng ngwanwyn 2024.
In June 2023, we published the Approval Criteria for a new Made-for-Wales GCSE in Physical Education and Health, which will be available for first teaching from September 2026.
60% of this qualification will be assessed through non-examination assessment (NEA) where learners will have to:
perform in two sports or physical activities selected from an Approved list
provide coaching or personal training to others in a sport or physical activity selected from an Approved list.
In recent months we have been working with stakeholders to co-create the Approved list of sports and physical activities that learners will choose from. We’ll use criteria to determine what should feature on the Approved list, but it will include an engaging and inclusive range of appropriate individual and team sports and physical activities.
We hosted an online survey in November 2023 to gather feedback on our proposed criteria and to enable stakeholders to suggest what sports and physical activities should be included.
We are currently working with key stakeholders to consider the feedback to this survey. We intend to publish the criteria and Approved list in Spring 2024.