Category ol16   Show all

  • Sut fydd cyflwyno TGAU dyfarniad dwyradd yn effeithio ar ailsefyll mewn lleoliadau ôl-16 / How will the introduction of double award GCSEs affect resits in post-16 settings

    Rydyn ni’n ymgysylltu â cholegau i ystyried a allai cyflwyno TGAU dyfarniad dwyradd newydd mewn Mathemateg a Rhifedd, Saesneg a Chymraeg effeithio ar ddysgwyr mewn lleoliadau ôl-16.

    Gan weithio gyda ColegauCymru byddwn yn cynnal darn o waith i adnabod y gwahanol anghenion sydd gan ddysgwyr mewn lleoliadau ôl-16 yn y pynciau hyn, i lywio ein ffordd o feddwl am yr ystod o gymwysterau y bydd ganddyn nhw fynediad atyn nhw yn y dyfodol.

    Byddwn yn diweddaru'r tudalennau hyn wrth i'n gwaith yn y maes hwn fynd rhagddo. Mae rhai o'r camau rydyn ni eisoes yn eu trafod yn cynnwys:

    • llacio rheolau ailsefyll ar gyfer dysgwyr sy'n sefyll arholiadau mewn lleoliadau ôl-16.

    • caniatáu i ddysgwyr ailsefyll unedau penodol yn hytrach na'r cymhwyster cyfan.

    • archwilio sut y gellid gwneud llif data canlyniadau arholiadau dysgwyr i golegau yn gynt ac yn fwy effeithlon (gan gynnwys gwybodaeth am ddewisiadau testun penodol a data lefel eitem ar gyfer Cymraeg a Saesneg)


    We’re engaging with colleges to consider whether and how the introduction of new double award GCSEs in Mathematics and Numeracy, English and Cymraeg could affect learners in post-16 settings.

    Working with ColegauCymru we will be conducting a piece of work to identify the different needs that learners in post-16 settings have in these subjects, to inform our thinking about the range of qualifications they will have access to in future.

    We will keep these pages updated as our work in this area progresses. Some of the steps we are already discussing include:

    • relaxing resit rules for learners taking exams in post-16 settings.

    • allowing learners to resit specific units rather than the whole qualification.

    • exploring how the flow of learner exam results data to colleges could be made faster and more efficient (including information on set text choices and item level data for English and Cymraeg)