Category humanities   Show all

  • Y Dyniaethau: Datblygiadau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg / Humanities: Developments on Religion, Values and Ethics 

    Ni fyddwn yn datblygu gofynion ar gyfer cymhwyster annibynnol mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.  

    Yn lle hynny, fel rhan o'r cymwysterau Sgiliau Bywyd fydd ar gael i ddysgwyr 14-16 oed, byddwn yn datblygu gofynion ar gyfer unedau newydd mewn Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Y tair uned fydd: 

    • Ffydd a chred yn y gymuned leol  

    • Dewisiadau Moesegol  

    • Gwerthoedd am oes 

    Bydd pob uned rhwng 10 ac 20 awr o ddysgu dan arweiniad. Bydd hyn yn rhoi rhywfaint o strwythur a sgaffaldiau i ysgolion i gefnogi eu darpariaeth o Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg ym Mlynyddoedd 10 ac 11.  

    Bydd ysgolion yn rhydd i ddewis i ba raddau maen nhw’n darparu'r unedau hyn pan fyddan nhw’n addysgu Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Er bod yr unedau hyn wedi'u dylunio i gefnogi Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, ni fyddan nhw’n ymdrin â phob agwedd ar rwymedigaethau statudol ysgol yn y maes hwn.   


    We will not develop requirements for a standalone qualification in Religion, Values and Ethics. 

    Instead, as part of the Skills for Life qualifications available for learners aged 14-16, we will develop requirements for new units in Religion, Values and Ethics. The three units will be:

    • Faith and belief in the local community 

    • Ethical Choices 

    • Values for life

    Each unit will be between 10 and 20 guided learning hours. This will give schools some structure and scaffolding to support their provision of RVE in Years 10 and 11. 

    Schools will be free to choose to what extent they deliver these units when they teach RVE. Although these units are designed to support RVE, they will not cover all aspects of a school’s statutory obligations within this area.